Thema dywyll Thema golau

Oblegid ein plant…

Dwi’n sdîlio’n hun wrth sgwennu hwn, ac yn pwysleisio ar y dechra fel hyn nad ydw i’n galw am gau yr un ysgol, boed fawr neu fach, yn wych neu’n wachul. Mae hi’n daten boeth yma yng Ngwynedd, a does fiw i chi geisio codi llais dros yr ysgolion mwy heb gael eich cyhuddo o fod yn annheyrngar i’r ysgolion bach, ac yn fwy na hynny, yn annheyrngar i’r Fro Gymraeg ac i’r iaith Gymraeg hyd yn oed. Dyna pam bod pobol fath â fi – pobol gyda phlant mewn ysgol fawr – yn dueddol o gau ein cegau a chwyno’n ddistaw bach ymhlith ein gilydd am faint dosbarthiadau ein plant, ac am y diffyg cyllid i gael mwy o athrawon i’w dysgu nhw, a’r diffyg stafelloedd i roi’r athrawon rheiny ynddyn nhw petai’r arian ar gael i’w cyflogi nhw.

Bu llawer o sôn am hawl plentyn mewn ysgol fach i fynychu ei ysgol bentref, ac effaith colli’r hawl hwnnw petae’r ysgol bentref yn gorfod cau. Ychydig a glywyd, fodd bynnag, am hawl plentyn mewn dalgylch ysgol fwy, lle mae dosbarthiadau mor fawr fel nad oes lle i blant yn eu hysgol bentref eu hunain, er eu bod yn aml yn byw o fewn pellter poeri i’r ysgol honno.

Dyma realiti anghysurus rhai o’r ysgolion mawr, realiti na chlywch chi fawr ddim amdano fo. I ble’r aiff y plant rheiny a gaiff eu gwrthod gan eu hysgol leol, dywedwch? Mae eu teuluoedd un ai’n gorfod symud o’r ardal, neu mi gaiff y plant eu hanfon i ysgolion cyfagos, gweithred sy’n eu cymryd allan o’u cymuned, oddi wrth eu ffrindiau, ac weithiau i ganol hinsawdd ieithyddol neu gymdeithasol na fwriadwyd iddyn nhw gan eu rhieni.

Felly pam bod problemau’r ysgolion bach wedi cydio yn nychymyg pobol i’r ffasiwn raddau, tra bod problemau’r ysgolion mawr yn cael eu hanwybyddu mewn cymhariaeth? Ai oherwydd y rhamant sy’n perthyn i’r syniad o ysgol fach wledig, a’i phlant diniwed, henffasiwn sydd wedi osgoi cael eu llygru gan ddylanwadau’r dref? Ai oherwydd y syniad mai dyma’r ysgolion sy’n cadw ein hiaith yn fyw, tra bod yr ysgolion mwy yn gorfod derbyn glasdwreiddiad ieithyddol a diwylliannol?

Mae’r ysgolion mwy yn dueddol o fod mewn ardaloedd trefol neu ddinesig; weithiau mewn cymunedau difreintiedig, sy’n golygu bod yr ysgol yn gorfod wynebu pob her sydd yn dod ynghlwm â bywyd mewn ardal o’r fath. Dydi’r ddelwedd yna ddim cweit mor ddeniadol, felly ai dyma’r rheswm dros broblemau PR yr ysgolion mawr? Mae’n syniad poblogaidd fod ysgolion bach yn fwy Cymraeg na’r rhai mawr, a’u bod felly yn fwy gwerthfawr, ond gor-gyffredinoli ysgubol yw hynny, a does dim ond isho gwrando ar iaith y buarth yn ysgolion ardal Caernarfon i weld hynny’n glir.

Mae gan ysgolion bach a mawr yr un problemau yn aml, wrth i rai o’n hysgolion llai ddioddef effaith negyddol dosbarthiadau mwy a diffyg gofod dysgu wrth iddynt orfod uno sawl oedran mewn un ystafell. Oni ddylai’r pwyslais fod ar wella byd ysgolion sydd â dosbarthiadau gorlawn, boed y rheiny’n ysgolion bach neu fawr?

Ond does fawr o obaith i’r daten yma oeri, gan nad oes unrhyw beth yn tanio pobol mwy na lles eu plant. Ac felly y dyla’ hi fod wrth gwrs, dim ond inni gofio mai plant yw plant – beth bynnag yw eu cefndir, a pha faint bynnag yw eu hysgol.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Pleidlais Americanwr

Ymlaen >

Noddi Cylchgronau