Thema dywyll Thema golau

Olwyn y Flwyddyn

Nia Dooley a Nia Jewell 
Y Lolfa, £9.99

Mae Olwyn y Flwyddyn (Y Lolfa, £9.99) yn llyfr hynod o ddeniadol a wnâi anrheg Nadolig arbennig i unrhyw gartref. Yr hyn a gawn ni ydi cipolwg ar fyd natur o fis i fis ar hyd y flwyddyn gron. Nia Dooley a Nia Jewell sy’n gyfrifol am y testun a’r lluniau; dwy sydd wedi gweithio’n helaeth gyda phlant ac wedi arbenigo wrth drafod rôl byd natur wrth hybu lles. Mae eu hangerdd dros eu maes yn cyfuno celf a byd natur yn amlwg o’r cychwyn. Dyma lyfr sy’n gyforiog o wybodaeth a lluniau, barddoniaeth, chwedloniaeth a thraddodiadau, ynghyd â gweithgareddau celf hwyliog wedi’u gosod yn drefnus a chlir – Graffeg sy’n gyfrifol am y dyluniad. Da ydi gweld rhai tudalennau gwag yn y cefn dan y teitl ‘Fy nodiadau natur’.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Harri Puw a’r Bocs Breuddwydion

Ymlaen >

Nadolig Llawen Fferm Cwm Cawdel