Thema dywyll Thema golau

Onglau ar brofiad oesol

John Ellis Jones, tad y ffotograffydd Rhodri Jones John Ellis Jones, tad y ffotograffydd Rhodri Jones
Cafodd Rhodri Jones ei ddisgrifio gan y ffotograffydd arall hwnnw o Gymro, Philip Jones Griffiths, fel ‘bardd Cymraeg efo camera’. Wrth gymryd golwg ar ei wefan mae’n hawdd deall beth sydd ganddo gan fod cymaint o enaid yn y lluniau, sy’n dangos pobl mewn sawl rhan o’r byd lle bu’n gweithio yn ystod gyrfa sy’n ymestyn yn ôl dros 35 o flynyddoedd. Mae ei luniau wedi ymddangos mewn llu o bapurau newydd a chylchgronau, mewn arddangosfeydd hwnt ac yma ac mewn llyfrau. Ar ddechrau ei yrfa treuliodd amser yn Nicaragua ac El Salvador yn ystod y rhyfeloedd yno yn y 1980au a’r 1990au. Yn ddiweddarach crwydrodd yn yr hen Iwgoslafia a chyn-wledydd yr Undeb Sofietaidd. Yna yn 1995 aeth i Tsieina gan dynnu lluniau oedd yn darlunio sefyllfa rhai o leiafrifoedd y weriniaeth yn ogystal â symudiad pobl o gefn gwlad i’r dinasoedd mawr. Fodd bynnag, ei lyfr diweddaraf yw’r un mwyaf personol o ddigon iddo’i gyhoeddi hyd yma. Mae Cofion yn deillio’n uniongyrchol o brofiad y ffotograffydd o golli ei dad yn Ionawr 2023.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
Gwynfor Dafydd, Bardd Coron 2024, a chlawr y cyfansodddiadau

Y Cyfansoddiadau – fel drych mewn dameg?

Ymlaen >
Y Fedal Ddrama

Y Fedal Ddrama – hen helynt ar newydd wedd?