Thema dywyll Thema golau

O’r Alban – Lawr â fo

Nid ar chwarae bach mae diddyfnu’r Albanwr oddi ar ddiodydd meddwol. Ond dyw hynny ddim yn atal ein meistri gwleidyddol rhag rhoi cynnig arni. Wedi’r cyfan, roeddem ni’n ysmygwyr trwm hefyd ond, bum mlynedd yn ôl, ni oedd y genedl gyntaf ym Mhrydain i wahardd yr arferiad mewn mannau cyhoeddus. Dilyn Gweriniaeth Iwerddon oeddem ni yn hynny o beth. Wrth geisio mynd i’r afael â diwylliant gor-yfed yr Alban, fodd bynnag, doedd neb y tro hwn wedi paratoi map ar gyfer ein gwleidyddion. Roedden nhw mewn dyfroedd heb eu  siartio. A dyna sut y cychwynnodd yr helynt.

I gychwyn, aeth Llywodraeth yr Alban i’r afael â’r broblem o safbwynt cyfraith a threfn. Edrychwyd ar y trafferthion a ddeilliai o ymddygiad gwrthgymdeithasol meddwol. Calonogwyd y gwleidyddion gan arbrawf a gynhaliwyd yng Ngorllewin Lothian. Yno, ni chai siopau werthu alcohol i neb dan 21 oed. O fewn dim o dro bu gostyngiad mewn troseddau o’r fath. Ond, wrth gwrs, yn ystod cyfnod yr arbrawf cynyddwyd presenoldeb yrheddlu yn yr ardal. Ai codi oedran prynu alcohol sy’n gyfrifol am y gwelliant, ynteu’r polisi o blismona’r sefyllfa yn drylwyr? Parhau mae’r arbrawf, a pharhau hefyd mae’r plismona dwys, fel na ellir ateb y cwestiwn i sicrwydd.

Nid bod hynny wedi atal y Llywodraeth rhag cynnig bod y trothwy 21 oed yn cael ei ymestyn drwy’r Alban. Gwrthwynebwyd hynny’n ffyrnig gan y gwrthbleidiau – a’r archfarchnadoedd. Trodd adain ieuenctid yr SNP ar yr arweinyddiaeth gan ofyn sut y gallai plaid a oedd eisiau gostwng oedran pleidleisio i 16 gyfiawnhau codi oedran yfed i 21. Yn dawel, anghofiwyd am y syniad hwnnw. A’r pwyslais ar gyfraith a threfn wedi creu problemau iddyn nhw, dechreuodd y Llywodraeth ddadlau nesaf y dylid rheoli alcohol er mwyn arbed arian i’r Gwasanaeth Iechyd. Canolbwyntiwyd bellach ar bris alcohol. Rhesymai’r Llywodraeth y byddai rhoi’r gorau i werthu diodydd meddwol yn rhad yn cyfyngu ar or-yfed ymhlith ieuenctid. Y tro hwn, cafwyd cefnogaeth y byrddau iechyd i’r syniad. Ond neb arall. Yn wir, mynegwyd pryder y gallai ymgais i atal masnachwr rhag cynnig gostyngiadau fod yn anghyfreithlon dan gyfraith Ewrop.

Erbyn hyn, teimlai’r gwrthbleidiau yng Nghaeredin y rheidrwydd i awgrymu rhywbeth. Beth, medden nhw, am dargedu Buckfast, y gwin tonig efo cic fel mul sy’n hynod o boblogaidd yn yr Alban. Ymosodwyd arno am ddau reswm. Mae lefelau uchel eithriadol o gaffein a lefelauparlysol o uchel o alcohol mewn Buckfast. Dyma, felly, fynd ati i argymell ei wahardd ar sail iechyd cyhoeddus a chyfraith a threfn. Ond – mynachod yn Abaty Buckfast yn Nyfnaint yw gwneuthurwyr y stwff! Yn synhwyrol iawn, penderfynodd y Llywodraeth nad syniad da fyddai rhoi’r bai’n llwyr ar fynachod yn Lloegr am or-hoffder yr
Albanwr o alcohol.

Bellach mae Holyrood wedi cymeradwyo Mesur Alcohol na fydd, pan ddaw’n gyfraith, yn gwneud fawr ddim ond atal archfarchnadoedd rhag cynnig bargeinion alcoholaidd megis tri am bris dau. Bydd yr oedran prynu diod yn aros yr un fath, fydd dim isafswm pris, na gwaharddiad ar ddiodydd anarferol o gryf.
Cafodd y ddeddfwriaeth ei dyfrio. Ond mae’r diodydd cyn gryfed ag erioed.

 


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

"Nid yn ofer y bu'r brwydro..." - gobeithio

Ymlaen >

Ysgrif goffa Catrin (Kathleen) Dafydd (1938-2010)