Thema dywyll Thema golau
Ar ôl Rhodri
O’r Alban – Sianel Deledu Genedlaethol?
Adolygiad - Ty Bernarda Alba

O’r Alban – Sianel Deledu Genedlaethol?

Cofiwch, cafodd cychwyn y fenter gyhoeddusrwydd eang, ac roedd y noson agoriadol yn cael ei darlledu hefyd, ar yr un pryd, ar BBC2 Scotland. A wnaeth y telediadau o gemau pêl-droed Her Gwpan yr Alban ddim byd ond daioni i’r ffigyrau cychwynnol. Parodd hynny i’r hanesydd Michael Fry gyhuddo BBC Alba o dwyllo. ‘Does dim angen Gaeleg i wylio ffwtbol’, oedd ei sylw snichlyd. Ond o ran tegwch, mae rhai rhaglenni Gaeleg, drwy isdeitlau, yn hynod boblogaidd, yn enwedig Eòrpa, cyfres gylchgrawn sy’n cyflwyno hanesion difyr o bob cwr o Ewrop.

Erbyn y Nadolig, fodd bynnag, dirywiodd pethau. Adroddwyd fod yr orsaf, sy’n derbyn £15 miliwn gan y BBC a Llywodraeth yr Alban drwy MG Alba, wedi colli un rhan o dair o’i gwylwyr. Heb gyd-destun, mae hynny’n ymddangos yn ddifrifol. Mae’r BBC yn amcangyfrif y bydd y ffigyrau’n syrthio ymhellach i 250,000. Ond byddai hynny hyd yn oed, yn arwydd o lwyddiant. Hyd yn oed pe byddai pob un o’r 60,000 sy’n siarad Gaeleg yn gwylio, dim ond un gwyliwr allan o bob pedwar fyddai’n gallu gwneud hynny heb gymorth isdeitlau. Peth dieithr i bobl yr Alban yw gwylio isdeitlau. Mae parodrwydd pobl i feithrin yr arfer yn profi bod yr orsaf yn amlwg yn plesio. (Fel yn achos TG4, y sianel Wyddeleg, mae pob un o raglenni BBC Alba yn cael eu darlledu efo isdeitlau na ellir eu dileu o’r sgrîn.)

Mae niferoedd y gwylwyr yn eithriadol pan ystyrir hefyd nad yw’r sianel o fewn cyrraedd rhan helaeth o’r boblogaeth. Dim ond ar deledu lloeren y mae hi’n cael ei throsglwyddo. Fydd hi ddim ar gael ar Freeview nes y bydd y trosglwyddyddion analog wedi eu diffodd, a’r Alban i gyd yn ddigidol. I bob pwrpas nid yw ar gael eto i neb ond tanysgrifwyr Sky, a’r mymryn bach sy’n derbyn Freesat. Mae’r sianel ar gael yng Nghymru a phob man arall ar Sky 168.

Priodol, serch hynny, yw cydnabod y gallai’r modd y mesurir ei ffigyrau gwylio fod yn gamarweiniol. Ffigyrau a gasglwyd gan fesurwyr cynulleidfaol BARB a ddefnyddir gan y BBC ar gyfer bob un o’i sianeli eraill. Ond nid dyna’r sefyllfa yn achos BBC Alba. TNS System Three, cwmni sy’n cynnal arolygon barn, a gafodd y gwaith o gyfri’r gynulleidfa.

Does neb yn amau’r ffigyrau, fodd bynnag.Fe gydiodd y gwasanaeth. Mae pêl-droed yn ffactor yn bendifaddau. Gan BBC Alba y mae’r hawl i ddarlledu gemau socer Adran Gyntaf yr Alban a’r Her Gwpan. (Nid, sylwer, gemau’r Uwch Adran Albanaidd lle mae Celtic a Rangers yn tra arglwyddiaethu.) Doedd gan y sianeli eraill ddim diddordeb yn hynt clybiau’r Adran Gyntaf. Ond mae gan ddilynwyr Airdrie United a Morton a’u tebyg ddiddordeb! Cafwyd yr hawl hefyd i ddarlledu gemau rygbi Cynghrair Magners, er nad yn fyw. Diolch i BBC Alba, mae darpariaeth chwaraeon amgen i’w chael, un nad yw’n ddibynnol ar danysgrifio i Sky Sports neu Setanta. Gwnaeth y strategaeth honno fyd o les i’r sianel.

Yn ogystal bu rhaglenni dogfen gorchestol ar y sianel. Yn Diomhair (‘Cyfrinachol’), cafwyd prawf anwadadwy bod llywodraethau Prydain wedi gwneud eu gorau glas – a choch – i sathru’r SNP dan draed ac i bardduo cenedlaetholdeb. Yn ddiweddar hefyd cafodd Madame Ecosse, rhaglen ddadlennol am Winnie Ewing, a ddilynodd Gwynfor Evans i San Steffan, ganmoliaeth frwd.

Ond mae swn ym mrig y morwydd nad yw’n argoeli’n dda ar gyfer dyfodol BBC Alba. Galwodd Comisiwn Darlledu’r Alban am sefydlu: ‘Rhwydwaith newydd Albanaidd genedlaethol: sianel deledu ddigidol at wasanaeth y cyhoedd.’ Hynny yw, yr hen egwyddor bod yn rhaid wrth gyfundrefn ddarlledu sy’n gwasanaethu’r cyhoedd, ac nid yn rhoi elw yn flaenaf. Awgryma hyn nad yw BBC Alba yn cael ei hystyried yn sianel genedlaethol go iawn. Pe byddai’r Comisiwn yn cael ei ffordd, sianel Saesneg fyddai’r sianel genedlaethol arfaethedig – efo dim ond defnydd ymylol, ysbeidiol o’r Aeleg.

Gwnaeth BBC Alba argraff ryfeddol o ffafriol yn ei misoedd cyntaf. Fe all barhau i wneud hynny – os bydd Comisiwn Darlledu’r Alban yn gadael llonydd iddi.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Ar ôl Rhodri

Ymlaen >

Adolygiad - Ty Bernarda Alba