Er mai Jamieson sydd wrth y llyw am y tro, mae trafodaeth frwd ynglªn â phwy ddylai arwain y blaid yn barhaol. Yn ôl y bwci, Andy Kerr yw’r ffefryn. Roedd Kerr yn un o gefnogwyr mwyaf brwd y cyn-arweinydd – a’r cyn Brif Weinidog – Jack McConnell, ac mae’n gyn-weinidog a fu’n gyfrifol am Gyllid a Iechyd yn y weinyddiaeth flaenorol. Serch hynny, cafodd ei wthio o’r neilltu o dan arweinyddiaeth Wendy Alexander, ac ers etholiadau’r llynedd mae wedi dal portffolio digon anelwig, sy’n dwyn y teitl unigryw ‘Llefarydd yr Wrthblaid ar y Gwasanaethau Cyhoeddus’. A gan iddo wneud nifer o benderfyniadau amhoblogaidd tra’n Weinidog Iechyd – megis cau Unedau Gofal Brys yn Ayr a Swydd Lanarc – mae’n anodd gwybod pa mor barod fyddai’r cyhoedd i’w gefnogi.
Felly beth am Jamieson ei hun? Yn ôl y sôn, mae’r arweinydd dros dro yn ystyried ceisio am y swydd yn barhaol. Mae wedi dangos ei bod yn gymwys, ac mae ei pherfformiad yn y siambr yn dawelach, ond yn fwy effeithiol, nag Wendy Alexander. Yn ddi-os, hi fydd ail ddewis y mwyafrif, ond mae’n amheus os y bydd ganddi’r gefnogaeth i gyrraedd brig y rhestr.
Collodd Iain Gray, llefarydd Llafur ar Gyllid, ei sedd yn etholiad 2003, ond dychwelodd y llynedd fel Aelod Senedd yr Alban (ASA) dros Ddwyrain Lothian, gan olygu mai ef yw’r unig un o geffylau blaen y blaid sydd ddim yn cynrychioli etholaeth yng Ngorllewin Canolbarth yr Alban. Rhwng 2003 a 2007 bu’n ymgynghorydd i Alistair Darling, ac felly mae ganddo gefnogaeth gref ymhlith Aelodau Seneddol Llafur yn Llundain. Ond petai Gray yn ennill, mae perygl y bydd yr SNP yn cyhuddo Llafur yr Alban o fod yn blaid sy’n cael ei rheoli o Lundain. Ac os y saif, a cholli, bydd y Ceidwadwyr yn cyhuddo Gordon Brown o fod wedi colli rheolaeth o’i blaid yn yr Alban.
Y pedwerydd ymgeisydd credadwy yw Margaret Curran, Llefarydd yr Wrthblaid ar Iechyd, a chyn brif-chwip y blaid. Mae’n aelod effeithiol, ond ymosodol, ac fe wnaeth nifer o elynion pan ddaeth i’r amlwg ei bod yn briffio yn erbyn Wendy Alexander ’nôl ym mis Ionawr. Ac yn olaf, mae’n bur debyg y bydd asgell chwith y blaid yn dymuno cael eu cynrychioli yn yr ornest, gyda Bill Butler yn ceisio ennill digon o gefnogaeth i sefyll yn enw’r Ymgyrch dros Sosialaeth.
Yr hyn sy’n amlwg yw y bydd yr ymgyrch yn un chwerw. Ers 2001, pan etholwyd Jack McConnell yn arweinydd yn ddi-wrthwynebiad, mae tensiynau wedi bodoli o fewn y blaid. Mae rhai wedi honni bod y stori ynglyn â rhoddion i ymgyrch Wendy Alexander wedi eu rhyddhau i’r wasg gan aelod amlwg o’r Blaid Lafur yn yr Alban, mewn ymgais fwriadol – a llwyddiannus – i’w diorseddu. Bydd cwestiynau ynglyn â theyrngarwch yr ymgeiswyr yn ganolog i’r ymgyrch, gyda Kerr a Curran, yn arbennig, yn dod dan y chwyddwydr.
Ond nid dyma’r unig etholiad y bydd yn rhaid i Lafur ei ymladd yn yr Alban. Ymddiswyddodd David Marshall, AS Dwyrain Glasgow, yn ddiweddar, gan orfodi is-etholiad. Bydd angen i’r SNP sicrhau gogwydd o 22% yn y bleidlais os ydyn nhw am ennill y sedd, sydd yn dalcen caled. Ond o ystyried perfformiadau Llafur mewn is-etholiadau diweddar yn Lloegr, a’r gwenwyn sydd yn siwr o godi i’r wyneb yn sgil ethol arweinydd newydd, mae’r SNP yn teimlo’n obeithiol dros ben. Mae sawl un wedi cyfeirio at is-etholiadau Glasgow Govan ym 1973 a 1988, pan gipiodd yr SNP seddi gyda llawer iawn mwy o ogwydd oddi wrth Lafur. Ar ben hyn i gyd, mae si fod John MacDougall, AS Glenrothes, yn ystyried ymddiswyddo. Mae ei sedd ef yn un o brif dargedau’r SNP, gan iddyn nhw gipio’r sedd gyfatebol yn Senedd yr Alban llynedd. Mae’r etholaeth yn ffinio ag etholaeth Gordon Brown, felly fe fyddai colli Glenrothes yn ergyd bersonol drom i Brif Weinidog Prydain.
Ac yn goron ar y cyfan, mae nifer o ASau wedi galw ar i Jack McConnell roi’r gorau i fod yn ASA dros Motherwell a Wishaw, gan ei fod wedi ei benodi yn Uwch Gomisiynydd Prydain i Malawi. Mae eisoes wedi datgan nad yw’n bwriadu gwneud y ddwy swydd ar yr un pryd, a gan ei fod i ddechrau ei swydd ym Malawi ym mis Ionawr 2009 bydd yn rhaid ethol aelod newydd cyn diwedd y flwyddyn – fydd yn golygu is-etholiad anodd arall i Lafur. Gyda Llafur mewn trafferth yn Lloegr, tra’n wynebu rhyfel mewnol a thair is-etholiad yn yr Alban, a oes ’na unrhyw un ar wyneb daear a fyddai’n fodlon ffeirio lle gyda Gordon Brown?
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru

