Thema dywyll Thema golau

O’r chwareus i’r dirdynnol

'Edau rhy dynn a dyrr' gan Sarah Williams. Enillydd Medal Aur Celfyddyd Gain, 2026. Llun: Marian Delyth

Cafodd CERIDWEN LLOYD‑MORGAN ei phlesio’n gyffredinol gan drefniadau, golwg a chynnyrch y Lle Celf eleni, a sylwodd fod pryder am yr amgylchedd yn amlycach na negeseuon gwleidyddol Cymreig.

Braf medru dechrau trwy ganmol a nodi bod nifer o newidiadau er gwell yn y Lle Celf eleni. Syniad ysbrydoledig oedd gosod gardd gerfluniau, Encil, o flaen y fynedfa. Wedi camu trwy’r adwy yn y ffens bren câi’r ymwelydd ei hun yng nghanol blodau, llwyni a choed: llecyn tawel ac ymlaciol i encilio, yn wir, o fwrlwm y Maes. Dyma leoliad perffaith ar gyfer arddangos gwaith (wedi ei fenthyg) gan ddeg o gerflunwyr a (haleliwia!) nifer o seddi lle gellid cymryd amser i werthfawrogi a myfyrio. Roedd y cerfluniau yn cyfleu amrywiaeth odidog gwaith artistiaid bro’r Eisteddfod a da gweld ailafael yn y traddodiad clodwiw o gyflwyno blas ar hanes celf yr ardal. Dyna beth a gafwyd hefyd yn y cyntedd, lle dangoswyd detholiad bach o baentiadau cyfarwydd y diweddar Aneurin Jones o fywyd a chymeriadau cefn gwlad.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Moshpits ac emosiwn

Ymlaen >

Newid ddaeth o rod i rod