Caiff y to hyn faddeuant am beidio â sylweddoli hyn, ond ers blynyddoedd bellach, bu diwedd Ionawr yn dymor arholiadau yn ein prifysgolion. Canlyniad yw hyn i un o’r chwiwiau, afresymegol ’na sy’n gafael mewn sefydliadau o bryd i’w gilydd. Chwiwiau sy’n gweld miloedd lawer o bobl a ddylai wybod yn llawer gwell yn rhuthro’n un fflyd i gyfeiriad rhyw Dir na nÓg dychmygol a hynny, yn y pen draw, oherwydd bod pawb arall ‘yn y sector’ yn gwneud yr un fath. Nid oes wiw ‘cael ein gadael ar ôl...’. Chwiw o’r fath honno a barodd i brifysgolion y Deyrnas Gyfunol geisio gorosod cyfundrefn dau semester Americanaidd ar ben y tri thymor academaidd traddodiadol gan greu sefyllfa sy’n llwyddo i gyfuno’r gwaethaf o’r naill gyfundrefn a’r llall. Hyn oll yn enw cynyddu ‘hyblygrwydd’ a ‘symudoledd’– er na welais fymryn o dystiolaeth ei fod wedi cael yr effaith ddisgwyliedig mewn gwirionedd. Oes, mae angen gras...
Ta waeth, â hithau’n dymor arholiadau, a minnau wedi hen ’laru ar eu marcio, dyma benderfynu gosod cwestiwn ar eich cyfer chwi, annwyl ddarllenwyr:
Dychmygwch eich bod yn un o arweinwyr Plaid Cymru drannoeth etholiad Cynulliad Cenedlaethol 2011. Dychmygwch ymhellach fod eich plaid wedi perfformio’n fwy parchus nag y gwnaeth mewn gwirionedd yn yr etholiad hwnnw. Ar ben hynny, dychmygwch fod yna gnoc ar eich drws a bod cennad ar ran Carwyn Jones am roi gwybod ei fod ef yn dymuno cychwyn trafodaeth anffurfiol ynglyn â thelerau clymblaid i olynu llywodraeth ‘Cymru’n Un’.
1. Beth fyddai eich ymateb?
2. Os trafod clymblaid, pa feysydd neu faterion fyddai’n gonglfeini angenrheidiol ar gyfer cytundeb o safbwynt Plaid Cymru?
3. O gytuno ar delerau a ystyrir gennych fel rhai derbyniol, sut y byddech yn ceisio ‘gwerthu’r’ cytundeb i aelodaeth y Blaid?
Er bod y cwestiwn yn cymryd ffurf y math o ‘arbrawf meddyliol’ sy’n annwyl gan athronwyr, fe fyddwch eisoes wedi sylweddoli nad senario ffansïol neu ffantasïol mo’r un a amlinellwyd. Yn wir, daethom o fewn ychydig gannoedd yn unig o bleidleisiau i weld ei gwireddu. Trwch blewyn oedd rhwng y 13 sedd a enillodd y Blaid yn 2011 a helfa lawer iachach o 16. A gan fy mod wedi sgwrsio’n benodol am y mater hefo nifer o unigolion yn uchel-rengoedd Llafur ym misoedd y gwanwyn 2011, gwn i sicrwydd fod ’na gryn frwdfrydedd yn eu plith bryd hynny dros y posibiliad o ffurfio clymblaid arall hefo Plaid Cymru. Methiant y blaid honno yn unig, a hynny yn sgil ymgyrch etholiadol symol ar y naw, a olygodd na chafwyd cnoc ar ddrws y Blaid.
Ni fyddai’n deg eich cystwyo’n ormodol os ydych chi’n cael trafferth ateb pob un o’r cwestiynau ar y papur arholiad, gan fy mod yn dawel fy meddwl y byddai arweinyddiaeth y Blaid ei hun ar y pryd wedi cael yr un anhawster yn union. Ond gadewch i ni eu hystyried yn eu tro.
* * *
Yn sgil profiad Cymru’n Un – ac o ddychmygu canlyniad etholiadol gwell nag a gafwyd – rwy’n tybio mai’r ymateb greddfol i’r cwestiwn cyntaf fyddai ‘Iawn diolch! Lle mae’r cyfarfod?’ A pham lai? Ar y cyfan, cafodd Plaid Cymru flas mawr ar fod yn blaid lywodraethol am y tro cyntaf yn ei hanes. Hyn i raddau helaeth oherwydd bod grym wedi esgor ar enillion polisi sylweddol: refferendwm 2011, yn fwyaf amlwg, ond hefyd (ar ôl osgoi baglu ar y funud olaf) sicrhau statws swyddogol cydradd i’r Gymraeg. Byddai’n naturiol, felly, ceisio dal ati pe bai modd. Ond ar ba sail? A dyma ddod â ni ar ein pennau at yr her fawr, sef yr ail gwestiwn.
Hyd yn oed petai’r canlyniadau etholiadol wedi caniatáu’r peth, ymddengys nad oedd gan arweinyddiaeth y Blaid ym mis Mai 2011 unrhyw syniad beth fyddai wedi cyfateb at y cymal refferendwm yng nghytundeb Cymru’n Un. Hynny yw, beth fyddai’n cynrychioli’r wobr polisi fawr a fyddai’n cyfiawnhau’r holl gyfaddawdu sy’n rhan annatod o lunio llywodraeth glymblaid. Wrth gwrs, fe ellid dadlau nad oes wastad angen un fuddugoliaeth fawr o’r fath. Oni ellir cytuno ar raglen lywodraethol eang a gwneud hynny’n sail clymblaid, yn hytrach na chanolbwyntio ar un wobr fawr, ta waeth pa mor arwyddocaol? Mewn gair, gellir. Heb eich diflasu â manylion gwleidyddiaeth Norwy, dyna’n union oedd sail y glymblaid rhwng y Blaid Lafur, Plaid y Chwith Sosialaidd a Phlaid y Canol (sef plaid y ffermwyr) a fu’n llywodraethu yno rhwng 2005 a 2013. Ond yn yr achos yna roedd gan y pleidiau raglenni polisi manwl a blaenoriaethau eglur, ac ar ôl cyfnod estynedig o drafod, llwyddwyd i lunio rhaglen gyfansawdd oedd yn cynnig digon i bawb i sicrhau cytundeb. Rwy’n tybio, fodd bynnag, na fyddai dilyn y trywydd yna’n bosibl i Blaid Cymru yn 2011, a hynny oherwydd bod ei rhaglen bolisi ar y pryd mor ddiddim.
Dogfen dila ar y naw oedd maniffesto Plaid Cymru ar gyfer etholiadau’r flwyddyn honno. Mor wan, yn wir, fel fy mod yn fodlon mentro na fydd fawr neb a fu’n canfasio ar ran y Blaid y flwyddyn honno’n cofio nemor ddim am ei chynnwys. Nid oedd digon o sylwedd ynddi – na digon o angerdd y tu ôl i’r sylwedd – i ddarparu sail ar gyfer rhaglen lywodraethol a fyddai’n rhyngu bodd aelodaeth sy’n dal yn driw at wreiddiau hanfodol wrth-sefydliadol Plaid Cymru.
A dyma ddod â ni at y trydydd cwestiwn ar y papur arholiad.
Mae rhai pleidiau gwleidyddol sy’n chwennych grym er ei fwyn ei hun. Y Torïaid oedd yr enghraifft par excellence o blaid o’r fath, a dichon fod David Cameron yn llathen o’r un brethyn traddodiadol – hyd yn oed os yw purdeb ideolegol wedi mynd yn ffasiynol iawn ymysg rhai o’i Aelodau Seneddol mainc gefn. Mae bod mewn grym hefyd yn gwbl greiddiol bwysig i’r Blaid Lafur Gymreig. Os oedd unrhyw amheuaeth ynglyn â hynny, fe’i lladdwyd gan barodrwydd Llafur i daro bargen hefo Plaid Cymru yn haf 2007. Ar ôl degawdau lawer o ddilorni a chystwyo cenedlaetholwyr Cymreig am eu culni honedig – a hyd yn oed eu ‘Ffasgaeth’ – nid oedd, wedi’r cwbl, unrhyw rwystr mawr i glymbleidio â hwy os mai’r unig opsiwn arall oedd eistedd ar feinciau’r wrthblaid.
Ond nid plaid felly yw Plaid Cymru. Nid plaid felly fydd hi chwaith, o leiaf am y dyfodol rhagweladwy. Yn hytrach mae Plaid Cymru’n blaid sy’n blaenoriaethu ei hamcanion polisi uwchlaw popeth arall (neu ‘egwyddor’, fel y byddai Pleidwyr am i mi ddweud, debyg!). Dim ond o weithio gyda’r graen hwnnw y gellir gobeithio ‘gwerthu’ unrhyw glymblaid i’r aelodau ar lawr gwlad. Dim ond o’u darbwyllo fod pwrpas ‘uwch’ i gytundeb – megis y gobaith o ennill senedd ddeddfwriaethol lawn i Gymru yn 2007 – y gellir eu cael i roddi sêl bendith iddo.
* * *
Pe byddai arweinyddiaeth y Blaid wedi gorfod ateb y papur arholiad hwn yn ôl ym mis Mai 2011, rwy’n ofni y byddent wedi methu. Yr her fawr i Leanne Wood, wrth gwrs, yw sicrhau ei bod hi mewn sefyllfa i wneud yn well ym mis Mai 2016.
Beth yw’r rhagolygon? Mewn gair, cymysg.
Ymddengys fod y rhagolygon yn addawol ar gyfer perfformiad etholiadol cryfach nag a gafwyd yn 2011. Yn un peth, dan arweinyddiaeth egnïol y Brif Weithredwraig Rhuanedd Richards – a gyda Leanne Wood ei hun yn amlwg yn mwynhau’r rhan yma o’r gwaith – mae Plaid Cymru wedi cofio sut i ymgyrchu. A bwrw wedyn mai Llafur yn y pen draw fydd yn fuddugol mewn brwydr agos yn etholiad cyffredinol Prydeinig 2015, gall Plaid Cymru obeithio cynyddu ei phleidlais yn etholiad Cymreig y flwyddyn ddilynol.
Byddai hynny’n gwneud clywed y gnoc Lafuraidd wrth y drws yn fwy tebygol. Ond nid yn anorfod chwaith, oblegid mae’n annhebygol iawn y bydd Plaid Cymru mewn sefyllfa i efelychu camp 2007 a llunio darpar glymblaid ‘enfys’ er mwyn gorfodi Llafur i drafod. Nid yn unig oherwydd bod Andrew R.T. Davies yn greadur gwahanol iawn i Nick Bourne, ond hefyd – os na welir rhyw gwymp mawr yn y cyfamser – oherwydd ei bod yn debygol iawn y bydd Aelodau UKIP yn cael eu hethol i’r Cynulliad Cenedlaethol am y tro cyntaf. Bydd hyn yn newid holl ddeinameg y berthynas rhwng y gwrthbleidiau presennol.
Nid oes fawr ddim y gall Leanne Wood ei wneud ynglyn ag arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol Gymreig neu lefelau cefnogaeth UKIP. Ond fe all ac fe ddylai sicrhau fod ei phlaid ei hun wedi paratoi’n drwyadl ar gyfer unrhyw drafodaeth glymbleidio ar ôl yr etholiad, yn bennaf oll trwy benderfynu pa feysydd neu faterion a fyddai’n gonglfeini angenrheidiol ar gyfer cytundeb.
Heb wybod eto beth yw cynnwys ail adroddiad Comisiwn Silk a pha ymateb a geir iddo gan y gwahanol bleidiau, mae’n amhosibl dyfalu os bydd cwestiwn cyfansoddiadol digon pwysig yn y fantol yn 2016 i ddarparu’r ‘wobr’ angenrheidiol ar gyfer llunio clymblaid. Amser yn unig a ddengys. Y caswir amdani o safbwynt Plaid Cymru yw na fydd gan arweinydd y blaid fydd yn y trydydd safle yn y Cynulliad Cenedlaethol lawer o ddylanwad ar natur y drafodaeth gyhoeddus a fydd yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad, ddeuddydd wedi Dygwyl Dewi. Ond, unwaith yn rhagor, fe all Leanne Wood sicrhau fod rhaglen polisi ei phlaid gymesur â’r heriadau lu sy’n wynebu Cymru.
Yn hyn o beth mae ei phenderfyniad i drefnu pedwar ‘uwch-lefarydd’ – Elin Jones, Simon Thomas, Rhun ap Iorwerth a Llyr Huws Gruffydd – i weithio wrth ei hochr fel tîm arweinyddol yn gam addawol. Mae’n weddol amlwg mai ceisio efelychu model arweinyddol llwyddiannus yr SNP ydi’r bwriad. Ond a bwrw fod y pump yn llwyddo i gydweithio’n effeithiol a bod y blaid ei hun yn rhoi digon o adnoddau y tu ôl iddynt, fe all hwn hefyd fod yn fodel a fydd yn caniatáu datblygu a hyrwyddo polisïau newydd. Ar hyn o bryd, tra bod ambell i syniad diddorol yn cyniwair – megis treth ar ddiodydd ‘pop’ er mwyn creu adnoddau newydd i fynd i’r afael â heriadau iechyd cyhoeddus – mae’r Blaid yn bell, bell o fod â rhaglen bolisi gyflawn a fforddiadwy. Ond bydd yn rhaid cael un.
* * *
Mae mis Mai yn parhau’n dymor arholiadau. Fydd myfyrwyr byth yn cael gweld y papurau arholiad ymlaen llaw. Ond yn yr achos yma, gall Wood, Jones, Thomas, ap Iorwerth a Gruffydd ragweld y cwestiynau fydd yn eu hwynebu ym mis Mai 2016. Digon o amser felly i benderfynu:
1. Ai trafod clymbleidio neu beidio?
2. Os trafod, pa feysydd neu faterion fyddai’n gonglfeini angenrheidiol ar gyfer cytundeb o safbwynt Plaid Cymru?
3. O gytuno ar delerau a ystyrir gennych fel rhai derbyniol, sut y byddech yn ceisio ‘gwerthu’r’ cytundeb i aelodaeth y Blaid?
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru

