Thema dywyll Thema golau

‘Parliment Uffernol’

erthygl-mai-2019-1965-899 erthygl-mai-2019-1965-899
Yn ‘Cwrs y Byd’ bron i ddeng mlynedd union yn ôl, ym Mehefin 2009, ‘Parliment Uffernol’ oedd y pennawd a roddais ar y golofn hon bryd hynny hefyd. Trafod sgandal yr aelodau seneddol a fu’n hawlio treuliau drwy dwyll oeddwn i. Yn y diwedd, carcharwyd pump ohonyn nhw. Ymddiswyddodd eraill. Collodd mwy fyth eu seddau pan ddaeth yr etholiad cyffredinol yn 2010. Yn 2009 ysgrifennais: ‘Ni all yr un ohonom gofio cyfnod erioed o’r blaen pan fu gwerin gwlad mor ddirmygus â hyn o wleidyddion. Ac o wleidyddiaeth. Dyma, yng ngolwg y mwyafrif ohonom, beth yw “Parliment Uffernol” go iawn.’ (Ellis Wynne yn ‘Gweledigaeth Uffern’ biau ‘Parliment Uffernol’.) Ar y pryd wnes i ddim meddwl am eiliad y byddwn i byth eto’n cael achos i ddefnyddio geiriau damniol o’r fath. Ond i hynny mae hi wedi dod unwaith yn rhagor, mae arnaf ofn, yn yr ymrafael diddatrys dros Brexit.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-mai-2019-1964-898

Llafur yn camddeall Brexit

Ymlaen >
erthygl-mai-2019-1966-900

Y Ddynes Haearn a’i chysgod sy’n parhau