Thema dywyll Thema golau

Pastynu yn Gymraeg, Saesneg ac Arabeg

Hanan Issa Hanan Issa
A hithau hanner ffordd drwy ei chyfnod fel Bardd Cenedlaethol Cymru, mae Hanan Issa yn dal i deimlo ‘anrhydedd’ y swydd. Fel rhan o ddathliadau Mis Hanes Merched adran Athroniaeth a Chrefydd Prifysgol Bangor a Chanolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru, cefais y cyfle i sgwrsio gyda Hanan, sef Cymrawd Anrhydeddus cyfredol y Ganolfan, mewn cyfweliad cyhoeddus a gynhaliwyd dros Zoom. Wrth drafod ei swyddogaeth fel y Bardd Cenedlaethol, nododd Hanan sut mae barddoniaeth yn cynnig ‘ffyrdd prydferth o gysylltu gyda phobl’, a’i bod wedi profi hynny yn ystod ei blwyddyn a hanner. ‘Mae pobl wedi bod yn dod ata i ar ddiwedd sesiynau yn dweud nad oedd barddoniaeth yn golygu dim iddyn nhw’n flaenorol, ond eu bod bellach wedi canfod rhywbeth yn y cyfrwng,’ meddai. ‘Rwy’n teimlo’n wylaidd iawn wrth glywed hynny.’ Ac yn arwydd o’r fath werthfawrogiad o ba mor ysbrydoledig ydi Hanan ac o’i dawn farddonol, derbyniodd anrheg yn 2023 gan Ganolfan Astudiaethau Islamaidd Prifysgol Caerdydd: pastwn.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
Golygfa gyda char unig ar draeth Ynyslas

Pobol leol yn unig?

Ymlaen >
Carwyn Graves a chlawr llyfr Tir

Dyn a daear – holi Carwyn Graves