Thema dywyll Thema golau

Pawb at y Peth y Bo

Ac eto, pam ddyliwn i boeni’n ormodol amdano ac yntau’n greadur annwyl a llawen ar y cyfan? Yn benna’ am fod yna ysgol o feddwl sy’n dweud na ddylid gadael llonydd i bobol awtistig, ac mai therapi ymddygiadol dwys ydi’r unig ffordd o sicrhau bod eu bywydau mor gyflawn â phosib. Hwyrach mai fi sy’n fam wael (ac y dylwn ddechrau bwrw fy mol ar fforwm y Bad Mothers Club ar y we!), ond mi ddyffeiwn i unrhyw un i gael unigolyn awtistig yn ei arddegau i wneud unrhyw beth yn ei erbyn ei ewyllys.

Mae hyn yn amlwg yn y gyfres Young, Autistic and Stagestruck ar Channel 4 lle daethpwyd â naw o blant a phobol ifanc ar y sbectrwm awtistig ynghyd i greu sioe lwyfan yn theatr y Lyric yn Llundain. A dyna ichi her ydi honno, wrth i ddau gyfarwyddwr artistig heb fawr o amgyffred o awtistiaeth orfod delio â’r strancs a’r styfnigrwydd a’r ecsentrigrwydd sy’n nodweddiadol o’r cyflwr. Ac eto, dywedir bod dysgu perfformio yn rhywbeth sy’n dod yn ail natur i’r criw, gan eu bod wedi arfer dysgu ‘technegau ymddwyn’ sy’n helpu i reoli eu cyflwr (gwneud iddynt ymddangos yn fwy ‘normal’, mewn geiriau eraill).

Nodwedd arall a briodolir i’r cyflwr ydi diffyg empathi – yr ‘anhyblygrwydd meddwl’ sy’n rhwystro pobol awtistig rhag medru uniaethu â phobol eraill. Ond beth am y plant a’r bobol ‘normal’ hynny sy’n gwrthod derbyn neu’n trio newid unrhyw un sy’n wahanol iddyn nhw? Yn erbyn ‘gormeswyr’ o’r fath y ffurfiwyd yr Autism Liberation Front, sef mudiad sy’n eu cymharu eu hunain â lleiafrifoedd gorthrymedig eraill ac yn mynnu’r hawl i gael bod yn wahanol, efo sloganau fel ‘I am a person, not a puzzle’.

Mwy o gymorth, dealltwriaeth a goddefgarwch sydd eu hangen, ynghyd â’r ymwybyddiaeth sydd ar gynnydd wrth i’r nifer o awtistiaid gynyddu. Mae yna hefyd fythau a stereoteipiau sydd angen eu chwalu – y gred fod gan bob person awtistig un ddawn arbennig ydi’r myth mwyaf cyffredin, mae’n debyg.

Mae gan Joel sawl dawn, i mi gael brolio fy mab fy hun. Mae ganddo draw perffaith wrth ganu; mae ganddo ddawn tynnu lluniau (enillodd gystadleuaeth ffotograffiaeth leol am lun o’i daid), ac mae ei ddawn trin geiriau yn chwedlonol. Ond ei brif ddawn – nodweddiadol arddegol – ar hyn o bryd ydi eistedd ar ei din yn sbïo ar y teledu trwy’r dydd. A dyna be fydd o’n ei wneud yn ystod gwyliau’r Sulgwyn mae’n siwr – gwylio Eisteddfod yr Urdd nes i’w lygaid droi’n sgwâr.

Yn y gyfres uchod, pan ofynnwyd i’r plant gogio bod yn anifeiliaid, ymateb dirmygus Ben, y bachgen Asperger hynod ddisglair, oedd ‘I may be autistic, but I am sane!’ Mae’n debyg mai dyna fyddai ei farn am gystadleuwyr Urddaidd, ystumiog hefyd.

Does gan Joel mo’r un sinigrwydd soffistigedig, fodd bynnag. Tybiaf yn hytrach ei fod yn mwynhau’r canu a natur ailadroddus y cystadlaethau, ac eto heb rithyn o awydd cystadlu na bod yno.

Pawb at y peth y bo, ddeuda i, beth bynnag fo’u cyflwr, a vive la différence.

 

Llun Joel o'i daid 

 


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Llywodraeth Lloegr a Diwedd Prydeindod

Ymlaen >

Wrth Eu Llwythau…