Thema dywyll Thema golau

Peintio pobl – holi David Griffiths y portreadwr

erthygl-rhagfyr-2021-i-ionawr-2022-2300-1194 erthygl-rhagfyr-2021-i-ionawr-2022-2300-1194
‘Gwlad beirdd a chantorion… mae hi’n hen bryd rhoi sylw i’n hartistiaid.’ Dyna sylw a glywais droeon gan Wil Sam, a oedd yn frawd i’r artist Elis Gwyn. Ond bellach, mae gennym y llyfrau hanes celf gwych gan Peter Lord, heb sôn am gnwd o gyfrolau am artistiaid cyfoes unigol Cymru. Y gwaith nodedig diweddaraf i ymddangos yw Hunanbortread David Griffiths gan Wasg Carreg Gwalch, a olygwyd yn gelfydd gan Arfon Haines Davies. Dyma lyfr dadlennol a difyr am bortreadwr cyfoes amlycaf Cymru. Dyn busnes yn Lerpwl oedd taid David Griffiths. Bu yntau’n bortreadwr amatur medrus, a wnaeth bortread o Mr Gladstone sydd bellach yn y Llyfrgell Genedlaethol. Yn Lerpwl ar ddechrau’r rhyfel y ganwyd David hefyd. Ond rhag bomiau Hitler, symudodd y teulu i fyw i Bwllheli. Yn Ysgol Ramadeg Pwllheli, roedd Elis Gwyn yn athro celf ar David. Mae’n debyg nad oedd Elis Gwyn wedi cymryd llawer o sylw o David ar y dechrau – er mawr ofid i’w fam, a aeth i’r ysgol i holi pam.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-2299-1193

Arwyr Angof: Yr ‘anfarwol Olwen’

Ymlaen >
erthygl-rhagfyr-2021-i-ionawr-2022-2301-1195

Cwis Nadolig – cyfle i gael lamp unigryw