Mewn seminar, mynnodd tiwtor nad ysgrif am feic modur yw hi mewn gwirionedd, ond am ryw –– ie, y ddawns lorweddol, y twmpath dau-berson. Mae’n amlwg nad am feic modur y mae’r ysgrif, meddai’r tiwtor, gan mai peth yw beic modur. Peiriant. A phwy, yn y byd mawr, rhyfeddol, fyddai’n ysgrifennu ysgrif am beiriant? Pwy fyddai’n ysgrifennu am feic modur heb is-destun?
Pwy na fyddai?
Dydd Sadwrn diweddar, euthum i faes parcio yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd, er mwyn dysgu sut i yrru beic modur. Wel, ailddysgu. Gwneuthum gwrs pan oeddwn yn ddeunaw oed ac ennill fy nhrwydded yrru beic modur yn yr Unol Daleithiau. Ond roedd hi’n ddeunaw mlynedd arall cyn i mi gael mynd ar gefn beic modur eto.
Ni wn pam. Mae’n hawdd rhoi’r bai ar fy nghyn-wraig. Neu arnaf i fy hunan am geisio cydymffurfio â’r hyn yr oedd fy nghyn-wraig yn ei ddymuno gennyf. Yn nyddiau T. H. Parry-Williams (neu pwy bynnag a ysgrifennodd ‘KC 16’) nid oedd gan yrwyr beiciau modur yr enw drwg sydd ganddynt bellach. Nid oedd y mods, y rockers, yr Hell’s Angels, y squids ac ati wedi cyrraedd eto. Felly efallai y byddai wedi bod yn haws darbwyllo fy nghyn-wraig petaem ninnau wedi byw yng nghyfnod T.H.
Ond yn y byd modern roedd hi’n frwydr. Yn ystod ein degawd gyda’n gilydd, dim ond tair dadl gawsom ni; a’m hawydd i brynu beic modur a gychwynnodd un o’r rhai gwaethaf. Gwrthododd fy nghyn-wraig hyd yn oed feddwl am ddioddef gwr a oedd yn o’r bobl hynny. Nhw ar eu beiciau modur, nhw a oedd yn taflu eu hunain tuag at farwolaeth.
Mae gennyf fywyd gwahanol erbyn hyn, a gwraig sy’n ddigon hapus i ganiatáu imi ymddwyn fel dyn yn ei ganol oed. Felly euthum i wneud cwrs CBT (Compulsory Basic Training).
Roedd yr oriau cyntaf yn fy mlino wrth imi geisio ailddysgu sut i fod yn dyner gyda’r clytsh, sut i droi’r throtl yn ysgafn a chanfod y gêr cywir gyda ’nhroed. Oes, mae elfen o anwesu yn y broses, i ryw raddau, ond peidiwch â phoeni, gyfeillion: am beiriant yr ydw i’n sôn o hyd.
Mae’r gair ‘rhyddid’ yn un sy’n ymddangos yn aml yng ngeirfa Americanwyr. Yn rhy aml, efallai. Serch hynny, ‘rhyddid’ oedd y gair a ddaeth i ’mhen drosodd a throsodd y prynhawn hwnnw.
Es i a’m hyfforddwr (yntau’n gyrru beic modur y tu ôl imi ac yn siarad wrthyf drwy radio yn fy helmed) allan o’r ddinas i hwylio ar hyd lôn a redai drwy gaeau fferm, dros fryniau bychain, ac o amgylch corneli cul. Oherwydd natur beic modur a’r ffordd gywir o eistedd arno, prin y gallwn weld y peiriant heblaw’r rhan ohono a oedd yn union o’m blaen ac oddi tanaf. Diflannodd. Ymdoddodd.
Fi’n gwthio heibio 55 milltir yr awr. Teimlwn y tanc petrol yn erbyn fy nghoesau, y gwynt oer yn dawnsio yn fy helmed, rhythm y teiars, a phopeth yn ymateb yn naturiol i’m hawydd. Os oeddwn yn meddwl am symud i’r dde, symudwn i’r dde: nid oeddwn yn trin peiriant bellach. Yr oeddwn yn rhydd.
Mae’n ddigon hawdd imi gredu, felly, mai ysgrif am feic modur ydi ysgrif am feic modur, go iawn. Petawn i’n llenor, efallai y byddwn innau’n llunio ysgrifau amdano hefyd.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru

