Thema dywyll Thema golau

Pererindod fwyd a diod

Bwyd Eifionydd a chwrw Llŷn a chastell Cricieth yn y cefndir Bwyd Eifionydd a chwrw Llŷn a chastell Cricieth yn y cefndir
Mae yna wledd o’n blaenau yn Llŷn ac Eifionydd, llawn blasau o’r môr a’r mynydd. Ar bererindod ddanteithiol yno’n ddiweddar, cefais sgyrsiau â gloddestwyr di-ri. ‘Dwi’n barticiwlar iawn,’ meddai un llysieuwraig wrtha i cyn llunio rhestr o gynghorion gwych ar fy nghyfer. Mae hynny’n dweud y cyfan am fro’r Brifwyl eleni; dyma gornel o Gymru sy’n llawn hwyl a haelioni, a darganfyddiadau lu i’w gwneud. Yn ystod y pandemig roedd nifer yn siomedig pan gaewyd bwyty Plas Bodegroes yn Efailnewydd. Diolch byth mae’r cyn-gogydd yno, Hugh Bracegirdle, bellach yng Ngwesty Portmeirion ynghyd â’r Prif Gogydd, Mark Threadgill, a Daniel Griffiths – dau sy’n wreiddiol o Gricieth. Pa le gwell felly i ddechrau na’r hafan fach yma ym Minffordd, rhwng Penrhyndeudraeth a hen Gob Porthmadog. Yn un o noddwyr yr Eisteddfod Genedlaethol, mae Portmeirion yn llysgennad rhyngwladol dros weini’r gorau o gynnyrch Cymreig. Mae’n bleser bob tro ymweld â’r pentref amryliw, felly oedwch yno am bryd i aros prifwyl.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
John Morris

Cofio’r Arglwydd Morris o Aberafan

Ymlaen >
Yr olygfa o Uwchmynydd draw at Ynys Enlli

Ewch yn yr ysbryd i ben draw Llŷn