Mae un elfen ganolog hynod o debyg ym methiant llywodraethol presennol Keir Starmer fel prif weinidog a methiant Boris Johnson o’i flaen. Ymladdodd y ddau etholiadau llwyddiannus ar y sail gamarweiniol nad oedd dewisiadau anodd yn wynebu etholwyr ac nad oedd angen blaenoriaethu. Gyda golwg ar etholiad mis Mai, mae gwers amlwg yma i Blaid Cymru.
Mae cyfnod Syr Keir Starmer fel Prif Weinidog Prydain yn prysur ddirwyn i ben a hynny gwta flwyddyn a hanner ers iddo arwain ei blaid i fuddugoliaeth enfawr yn Etholiad Cyffredinol 2024. Does wybod yn union pryd y daw’r diwedd – pa ddigwyddiad, pa sgandal, pa gam gwag yn union fydd yn ei lorio’n derfynol. Ond ac yntau eisoes wedi gorfod aberthu ei brif gynghreiriaid i gyd er mwyn cadw ei le yn Downing Street a cholli pob hygrededd yn y broses, mater o amser yn unig yw hi bellach. A phan ddaw’r dydd, dichon y bydd y marwnadau gwleidyddol yn dyfarnu mai ef fu’r lleiaf llwyddiannus o’r pum arweinydd Llafur sydd wedi llwyddo i ennill etholiad Prydeinig.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
-

Tanysgrifiad – Digidol yn Unig
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at fersiynau llawn yr erthyglau ar ein gwefan, a rhifynnau blaenorol yn eu ffurf ddigidol. Byddwch yn gallu darllen popeth sydd ar ein gwefan tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£35.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
-

Tanysgrifiad – Print a Digidol
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at holl gynnwys gwefan BARN. Byddwch hefyd yn derbyn rhifyn newydd drwy’r post yn fisol tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£50.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
Mewngofnodi
Cofrestru
