Thema dywyll Thema golau

Petai Baby P wedi byw…

Yr adeg yma o’r flwyddyn, mae’r rhai ffodus yn ein plith yn crafu pen dros benderfyniadau hollbwysig yr Wyl, megis: Ai Nintendo DS Lite lliw coch ynteu wyrdd ddyla’ Siôn Corn roi yn ei sach eleni? Tocynnau i ba drên Santa ddylwn i archebu, a pha un sy’n rhoi’r anrhegion gorau ac yn cynnig y sieri neisia’? Ydi trimio’r ty cyn Rhagfyr y 1af yn goman?

Rwan, dwi ddim yn mynd i sentimentaleiddio am wir ystyr y Nadolig ac ati, ond os oes yna un flwyddyn pan fydd ein meddyliau yn bownd o droi’n fynych at blant llai ffodus na’n rhai ni’n hunain, eleni ydi hi.

Rhywbeth i blant ydi’r Nadolig meddan nhw - ac i’r plant mawr rheiny sy’n defnyddio’u hepil  fel esgus i ymddwyn fel seis ‘u sgidia unwaith eto wrth gwrs!  Ond daeth Scrooge yn gynnar eleni, gydag arolwg arall ar agweddau oedolion tuag at blant a phobol ifanc. Mae 42% ohonom o’r farn bod plant yn ymddwyn fwyfwy fel anifeiliaid; 41% yn meddwl bod plant yn beryg i’w gilydd ac i bawb arall; a 38% yn teimlo’r angen i gael eu hamddiffyn oddi wrth  blant a phobol ifanc. Dydi’r ffigyrau yn fawr o syndod dybiwn i, gan i arolwg gan yr UN yn gynharach eleni nodi mai Prydain yw un o’r gwledydd lleia’ goddefgar o blant a phobol ifanc. 

Ond mae’r gagendor rhwng oedolion a’r rhai sydd yn ceisio ymrafael â’u blynyddoedd ffurfiannol yn tyfu, a diffyg ymddiriedaeth a dealltwriaeth y naill tuag at y llall yn gwreiddio’n ddyfnach. Mae ‘gangs’ yn peri pryder i bobol, ond yn aml iawn, mae ‘gang’ wedi ei greu o unigolion ansicr, ofnus, sydd yn teimlo’n brafiach mewn criw. Rydan ni’n gresynu ac yn twt-twtian bod plant o flaen y teledu neu’r cyfrifiadur am oriau bob dydd, ond os ânt  allan i’r stryd i chwarae, mae’r chwarae yna yn aml yn cael ei weld fel ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae glaslencyndod yn gyfnod anodd ar y gorau, ond wrth i fwy a mwy o blant a phobol ifanc orfod ymdrechu i gadw’n gall gyda straen, tlodi ac ansicrwydd yn gefnlen ddyddiol, oni ddylem fod yn ceisio eu deall a’u cefnogi , yn hytrach na pharhau’r hinsawdd negyddol sy’n bodoli ar hyn o bryd? Mae’n cymryd cymuned i fagu plentyn, ac mi ddylem ni gofio hynny cyn cau ein drws ffrynt ar y byd a’i broblemau.

Sut fysa hi tasa’r gymuned yr oedd Baby P yn rhan ohoni wedi bod yn fwy gwyliadwrus, yn fwy parod i weld, ac i sylwi, ac i fusnesu? Sut fydda hi ar weiniaid fy nghymuned i a’ch un chithau petai ni’n gweld y person y tu ôl i’r ddelwedd, a’r angen y tu ôl i’r ymffrost?

A beth petai Baby P wedi byw? Sut fath o laslanc fyddai o wedi bod? Sut fath o ddyn ifanc? Mi fentrwn i mai bachgen digon anodd ei drin fyddai o wedi bod, ag yntau wedi dioddef y fath greulondeb yn ei flynyddoedd cynnar. A fyddai o wedi derbyn y cymorth a’r gefnogaeth a fyddai ei angen arno, ar ôl tyfu yn un o’r ‘feral youth’ y bu cymaint o sôn amdanynt? Go brin. A heb gymorth, cefnogaeth a dealltwriaeth, mae’n bosib y byddai wedi canfod ei hun yn y cylch dieflig hwnnw ble mae’r sawl a boenydiwyd yn poenydio. A beth am y rhai a laddodd Baby P? Sut lefydd oedd eu cymunedau nhw pan roeddynt yn blant ac yn bobol ifanc? A oedd yna rwydwaith o gefnogaeth iddyn’ nhw gan deulu estynedig, gan gyfeillion, gan gymdogion, yn ogystal â gan yr awdurdodau?

Enghraifft eithafol yw achos Baby P wrth gwrs, ond mae bywyd yn her i nifer fawr o bobol ifanc, a dydi eu labelu nhw’n broblemau cymdeithasol heb drïo eu cynnwys yn ein cymunedau yn helpu neb.

Drannoeth y storm ynghylch Baby P, bu llawer o bwyntio bys a gweld bai, a hynny yn deg ar brydiau, ond ychydig iawn o edrych yn y drych sydd wedi bod, ac ychydig iawn o ystyriaeth sydd wedi ei roi i’r hyn y gallem ni i gyd ei wneud i gefnogi ac i amddiffyn y rheiny sydd fwya’ angen cefnogaeth ac amddiffyniad. A’r rheiny, yn aml iawn, yw plant a phobol ifanc – neu’r  ‘feral youth’ bondigrybwyll.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Y Ddrama Na Sgwennodd Ionesco

Ymlaen >

A'r enillydd yw...