Mae hi wedi’i gosod mewn ffarm ar ochr mynydd rhywle yn Eryri...Syrpreis syrpreis!’
Trafod ei ddrama newydd i Theatr Genedlaethol Cymru, Tyner yw’r Lleuad Heno, y mae Meic Povey, a’r ffaith ei fod, unwaith eto, wedi dychwelyd i’r gogledd, ac i fro ei fagwraeth, am leoliad i’r ddrama honno. Lleoliad gwledig ‘rhywle yn Eryri’, yr un modd, oedd i Fel Anifail, Diwedd y Byd, Yr Hen Blant ac Indian Country, dramâu a’u llond o ddeunydd hunangofiannol, yn enwedig yr olaf.
Nid fod y dramodydd yn ymddiheuro am eiliad am ildio, unwaith yn rhagor, i’r dynfa yn ôl at ei wreiddiau gwledig yn Nant Gwynant, lle treuliodd ddeng mlynedd gyntaf ei oes.
‘Dwi’n meddwl yn sicr bod Eryri nid yn unig yn dal i ’nhynnu fi fel dramodydd ond hefyd, dyna ydi fy raison d’être i mewn ffordd. Mae pob agwedd o’r gwaith theatr a theledu yn adlewyrchu hynny mewn gwahanol ffyrdd. Er ’mod i wedi bod yn byw yng Nghaerdydd ers pan o’n i’n 21 oed, dydw i erioed wedi sgwennu’n benodol am Gaerdydd – heblaw am un gyfres deledu o’r enw Dim ond Heddiw a ddangoswyd yn 1977, a hanner drama lwyfan, eto yn y saithdegau. Er bod act gynta’r ddrama honno, sef Terfyn, wedi’i gosod yng Nghaerdydd, roedd yr ail act wedi’i gosod yn Llanystumdwy, ac felly drama’n ymwneud â’r topia ’ma oedd honno hefyd!’
Ie, y ‘topia ’ma’. I’r gogledd y myn y dramodydd hwn ddychwelyd, i Eryri ac yn aml iawn i Eifionydd, ardal y mae’n gyfarwydd iawn â hi gan i’r teulu symud o Nant Gwynant i Garndolbenmaen pan oedd ef yn un ar ddeg oed. Nid ein bod yn cynnal y cyfweliad ei hun yn Eryri nac yn Eifionydd, ond yn hytrach yn Eisteddfod y Bala. Er hynny, wrth inni sgwrsio yn heulwen braf y maes carafanau ynghanol caeau gwyrdd Penllyn, tirwedd creigiog bro ei febyd sydd ar feddwl Meic Povey ac yntau ar y ffordd i Theatr y Maes i drafod ei ddrama newydd.
Beth am honno felly? Mae’n prysuro i ddweud nad oes a wnelo Tyner yw’r Lleuad Heno ddim oll â Hedd Wyn. Dewisodd y llinell o waith R. Williams Parry yn deitl am ei bod yn adlewyrchu naws y ddrama. Drama gyfoes yw hi.
‘Mae yna deulu’n dod at ei gilydd i ddathlu pen-blwydd un o aelodau’r teulu, sef Prysor, yn 65. Y stori ydi fod yna gyfrinach ddu iawn yn perthyn i’r teulu sy wedi gyrru pob dim ers blynyddoedd. Mae yna un aelod o’r teulu sy ddim yn gwybod y gyfrinach ’ma...’
Cyfrinach deuluol, gorffennol sy’n taflu’i gysgod dros y presennol, ac, yn ôl y datganiad i’r wasg, gwrthdaro rhwng pobl o’r ddinas a thrigolion cefn gwlad... Ydi, mae’r cyfan yn swnio’n hynod o Poveyaidd. Erbyn meddwl, mae’n anodd meddwl am ddramodydd Cymraeg arall sydd ar dir y byw y gallwch droi ei gyfenw’n ansoddair a gwybod y bydd pawb yn deall.
Ac mae’r awdur ei hun, wrth gydnabod y dynfa barhaus yn ôl at ‘fy milltir sgwâr wreiddiol’, chwedl yntau, yn cytuno mai’r un math o themâu sy’n dal i’w ddifyrru hefyd. Un o’r rheini, yn sicr, yw’r tensiwn rhwng y dinesig neu’r trefol a’r gwledig.
Mae honno’n thema sy’n bwydo llawn cymaint ar y newid byd cynnar a brofodd Meic Povey, wrth adael ardal mor wledig â Chwm Pennant am Borthmadog, lle’r aeth i’r ysgol, ag ar y symud diweddarach o’r gogledd i Gaerdydd. Ym Mhorthmadog y derbyniodd ei addysg uwchradd yn y 1960au ac yno, yn 15 oed, y cafodd ei swydd gyntaf a hynny yn swyddfa Lloyd George – yn ‘clarcio a ’neud te a llyfu stamps’. Tynnu ar y cefndir hwnnw yr oedd ei gyfres deledu Talcen Caled. Mae’n bosib mai Les, prif gymeriad y gyfres honno, yw creadigaeth enwocaf Povey.
‘Stori fodern ydi Talcen Caled ond yn y bôn, be ydi hi’n ysbrydol, be dwi’n ’neud go iawn, ydi sgwennu amdanaf fi fy hun yn Port yn y 1960au. Dwi’n gwneud hynny drwy gymeriad Les, sy’n hen rocar fel fi ac sywedi symud o gefndir amaethyddol gwledig – o Gwm Pennant yn benodol, eto fel fi – i’r dre. Mae ei gefndir o’n hollol wahanol i’w wraig o, Gloria, sy’n hogan o’r dre. Mae o’n fwy gwerinol.’
 rhagddo i sôn am Les a Gloria fel dau gymeriad sydd hyd yn oed yn siarad yn wahanol i’w gilydd er eu bod wedi’u magu o fewn ychydig filltiroedd i’w gilydd. Ac mae hynny’n dod â ni at un arall o’r pethau sy’n ei yrru fel dramodydd, sef ei ddiddordeb ysol mewn iaith ac mewn tafodiaith. Boed hi wedi’i lleoli yn y gogledd trefol neu wledig, neu mewn rhannau eraill o’r wlad fel Hen Bobl Mewn Ceir (Clydach) neu’r cyfresi teledu Iechyd Da (y cymoedd) a Teulu (Aberaeron), mae’n gweld pob drama fel cyfle i arbrofi’n ieithyddol. Ac nid dim ond tafodieithoedd gwahanol ardaloedd sy’n ei ddiddori, ond y gwahaniaeth sydd i’w glywed yn aml yn iaith gwahanol aelodau o’r un teulu – gan gynnwys ei deulu ei hun – oherwydd eu hamgylchiadau.
‘Dwi’n gweld y peth yn fy nheulu fy hun. Dwi’n un o naw o blant a dwi’n siarad yn wahanol iawn i’r gweddill, er enghraifft fy chwaer sy’n byw yn Lerpwl neu’r brodyr sydd wedi aros yn Eryri.’
Beth am ddirywiad yr iaith? Sut mae dramodydd Cymraeg yn yr 21g., ac un sydd wedi’i ganmol byth ers dechrau ei yrfa am goethder ei ddeialog, yn ymateb i hynny?
‘Dwi’n anwybyddu dirywiad yr iaith,’ meddai. ‘Mae hynna’n swnio’n beth dadleuol iawn i’w ddweud, ond nid fy swyddogaeth i fel dramodydd ydi achub yr iaith. Wrth gwrs fod dirywiad ieithyddol yn rhywbeth sy’n fy mhoeni yn gyffredinol, ond yn fy ngwaith sgwennu fy swyddogaeth i ydi diddanu. Wrth sgwennu deialog, dydi rhywun ddim yn atgynhyrchu dirywiad iaith, yn atgynhyrchu bratiaith yn union fel mae o, ond yn hytrach yn trio dod o hyd i ryw ffordd o’i adlewyrchu o. Mewn drama, dydi llinellau ddim jest yn cael eu taflu ar bapur – maen nhw’n cael eu saernïo, mae ’na rhythm iddyn nhw, maen rhaid iddyn nhw berthyn i’r cymeriad.’
Ar yr un pryd, mae’n cyfaddef bod un peth yn bryder mawr iddo yng nghyswllt actio. Mae’n mynd yn gynyddol anoddach, meddai, i gael hyd i actorion Cymraeg sy’n abl i lefaru’r ddeialog y mae’n chwysu cymaint uwch ei phen gan fod cynifer o actorion Cymraeg heddiw heb y cefndir a’r adnoddau ieithyddol i wneud hynny. Nid yw’r rhan fwyaf ohonynt chwaith wedi derbyn unrhyw hyfforddiant mewn gwneud gwahanol acenion – rhywbeth sy’n rhan anorfod o hyfforddiant actorion sy’n ennill eu bara menyn yn Saesneg. Mae’r castio felly’n gorfod bod yn fwy gofalus nag mewn dyddiau a fu. Nid cyd-ddigwyddiad yw’r ffaith fod amryw o gast Tyner yw’r Lleuad Heno – pobl fel Owen Garmon a Merfyn Pierce Jones– yn actorion sydd wedi actio yn nramâu Meic Povey o’r blaen.
A’r cyfarwyddwr? Meic Povey. Ef ei hun, felly, gyda chast profiadol, sy’n wynebu’r her o ddod â’r ‘pethau Poveyaidd’yn fyw ar lwyfan. Ac mae’n edrych ymlaen.
Mae Tyner yw’r Lleuad Heno ar daith rhwng 8 Hydref a 13 Tachwedd gyda Theatr Genedlaethol Cymru.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru

