Thema dywyll Thema golau

Picil Sinn Féin – ac Iwerddon

Y diwrnod ar ôl i’r Continuity IRA ladd plismon yn swydd Armagh ar 9 Mawrth, a deuddydd ar ôl i grwp arall, y Real IRA, ladd dau filwr Prydeinig yn Antrim, safodd Martin McGuinness ochr yn ochr â Peter Robinson, arweinydd y DUP (y blaid a ffurfiwyd gan Ian Paisley), a Hugh Orde, Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Iwerddon, i gondemnio’r llofruddiaethau. Dywedodd Martin McGuinness fod y rhai oedd yn gyfrifol yn fradwyr i Iwerddon.

Roedd clywed hyn gan ddyn a dreuliodd flynyddoedd yn yr IRA, yn dilyn polisi o ladd milwyr Prydeinig ac aelodau’r heddlu, yn eironig. Ar yr un pryd roedd geiriau Martin McGuinness a’r lluniau o’r tri dyn gyda’i gilydd yn anfon neges bwysig o undod i’r gymuned yn y Gogledd ac i’r byd tu hwnt. Roedd hefyd yn dangos pa mor bell y mae Sinn Féin wedi dod, a chymaint mae hi wedi newid.

A dyna un o brif dalentau Sinn Féin dros y blynyddoedd – y gallu i addasu i siwtio’r angen neu’r amgylchiadau. Diegwyddor, meddai rhai. Pragmataidd, meddai eraill. Ers ei sefydlu ym 1905 mae Sinn Féin wedi newid polisïau ac egwyddorion – rhai sylfaenol – er mwyn closio at ei nod o Iwerddon unedig.

Ond y broblem i Sinn Féin rwan yw’r ffaith nad ydy’r nod hwnnw ddim nes, mewn gwirionedd. Ac mae’r blaid hefyd yn cael mwy o drafferth nag yr oedd hi wedi ei ragweld, wrth geisio ennill tir yn y Weriniaeth.

Gweledigaeth gwr o dras Cymreig, y newyddiadurwr Arthur Griffith, a arweiniodd at sefydlu Sinn Féin, ‘Ni ein hunain’, yn 1905. Ei syniad o oedd ymwahaniad heddychlon. Hynny yw, dylai’r Gwyddelod sefydlu eu senedd eu hunain yn Nulyn, o dan y Goron Brydeinig. Doedd o ddim o blaid dulliau treisgar a doedd a wnelo’r Sinn Féin gwreiddiol hwnnw ddim byd â Gwrthryfel 1916. Grwp arall oedd arweinwyr 1916, grwp a gredai fod Sinn Féin, a meddylfryd Arthur Griffith, yn aneffeithiol, a bod rhaid herio Prydain yn filwrol. Ac ar ôl 1916, wrth i’r Rhyfel Annibyniaeth gychwyn, fe gollodd Arthur Griffith y ddadl o fewn ei blaid ei hun i’r rhai oedd yn cefnogi’r llwybr milwrol. Plaid Eamon de Valera a Michael Collins oedd Sinn Féin bellach. Dyma Sinn Féin yn trawsnewid – am y tro cyntaf, ond nid am y tro olaf.

Wrth ddathlu canmlwyddiant Sinn Féin yn 2005, soniodd Gerry Adams yr un gair am guru cyntaf ei blaid, Arthur Griffith. Mae’n well gan Sinn Féin ei gweld ei hun fel etifedd arwyr 1916. Nid dyma’r unig enghraifft, meddai’r beirniaid, o Sinn Féin yn ailsgwennu hanes.

Mae Sinn Féin wedi mynd trwy sawl metamorffosis arall. Doedd hi’n ddim byd mwy na ffrynt i’r IRA yn ystod 70au ac 80au’r ganrif ddiwethaf. Yna daeth y newid mwyaf dramatig o’r cyfan yn y 90au pan y trawsffurfiwyd hi’n blaid wleidyddol gydag aelodau seneddol. Cefnodd ar drais. Hyrwyddodd heddwch. Yn y broses mae Gerry Adams a Martin McGuinness wedi diosg un o’u hegwyddorion mwyaf sylfaenol trwy dderbyn, yng Nghytundeb Dydd Gwener y Groglith, benderfyniad llywodraeth y Weriniaeth i ddileu’r cymal cyfansoddiadol oedd yn mynnu Iwerddon unedig.

Cyrhaeddodd uchafbwynt ei llwyddiant etholiadol yn 2002 pan etholwyd 5 aelod seneddol i’r Dail – y blaid yn elwa ar ewyllys da’r etholwyr yn sgil y cytundeb heddwch. Yn 2004 cafwyd llwyddiant ychwanegol gyda Mary-Lou MacDonald yn ennill sedd i SF yn Senedd Ewrop. Roedd y blaid, a’r sylwebyddion, yn disgwyl pethau mawr yn etholiad cyffredinol 2007. Gobaith SF oedd o leiaf dyblu nifer ei TDs, a sicrhau lle allweddol iddi ei hun mewn clymblaid, a fyddai’n rhoi’r blaid mewn llywodraeth ar y ddwy ochr i’r ffin.

Ond ni ddigwyddodd hynny. Yn lle ennill mwy, collodd SF un o’i seddi. Mae ganddyn nhw nawr 4 sedd yn y Dail, (allan o 166), a’r sedd yn Ewrop. Mae ganddyn nhw ddyrnaid o seddi cyngor hefyd. Mae’r polau piniwn diweddaraf yn eu rhoi nhw ar tua 9 % – a dim arwydd o welliant.

Y drafferth i SF ydy, er gwaetha’i hymdrechion i ddatblygu’n blaid eangfrydig, gyda pholisïau manwl ar yr economi, ar iechyd a materion tramor ayyb, fod etholwyr y Weriniaeth yn dal i’w gweld hi fel plaid unlliw, un-polisi sy’n perthyn i’r Gogledd a ddim yn deall y Weriniaeth. Adeg etholiad 2007 roedd diffyg dyfnder gwybodaeth Gerry Adams am economi’r Weriniaeth a materion eraill o bwys yn boenus o amlwg mewn dadleuon teledu a radio. Doedd cael arweinydd plaid nad oedd ei hun yn sefyll mewn etholaeth yma ddim yn helpu chwaith.

Mae Sinn Féin yn ei chael hi’n anodd ehangu ei hapêl tu hwnt i’w chadarnleoedd. Mae 2 o’r 4 TD mewn etholaethau ar y ffin, Arthur Morgan yn Louth, a Caoimhain O’Caolain yn Cavan Monaghan; un arall, Martin Ferris yng Ngogledd Kerry – ardal gyda thraddodiad gweriniaethol; a’r pedwerydd, Aengus O’Snodaigh, yn Nulyn – lle mae’r blaid wedi llwyddo i apelio at ieuenctid difreintiedig.

Newidiodd Sinn Fein a symudodd yn anhygoel o bell, yn rhyfeddol o gyflym. Ond hyd yn hyn dydyn nhw ddim wedi argyhoeddi etholwyr y Weriniaeth eu bod nhw wedi newid digon. Y neges i’r blaid gan etholwyr y Weriniaeth ydy bod rhaid iddi weithio’n galetach i ddatblygu polisïau credadwy ar faterion bara menyn, fel yr economi ac addysg, a symud i ffwrdd oddi wrth yr hen bynciau megis trais a heddwch yn y Gogledd.

Ar yr un pryd, mae Sinn Fein mewn helynt yn y Gogledd. Mae’r llofruddiaethau diweddar wedi rhoi braw i bawb, gan ailgodi atgofion hunllefus o’r blynyddoedd gwaedlyd yr oedd pawb yn gobeithio eu bod drosodd am byth.

Yn ôl Heddlu’r Gogledd, y PSNI, dim ond 300 o unigolion sydd yn y Real a’r Continuity IRA, ac mae’r heddlu’n gwybod pwy ydy’r arweinwyr; cyn-aelodau o’r IRA gan fwyaf sy’n gweld rôl SF yn y broses heddwch fel brad.

Mae hefyd yn amlwg oddi wrth yr ymateb yn y Gogledd nad oes gan y grwpiau yma fawr o gefnogaeth yn y gymuned. Ond y pryder yw y gall mwy o fechgyn o’r stadau tai difreintiedig, lle mae’r grwpiau’n recriwtio, ymuno â’u rhengoedd wrth i’r dirwasgiad ac anobaith frathu.

Mae hyn oll yn gadael Sinn Fein mewn sefyllfa anghyfforddus iawn. Y peth olaf y maen nhw ei eisiau ydy colli grym a dylanwad o fewn y gymuned weriniaethol i’r grwpiau parafilwrol sy’n prysur lenwi’r gwagle y mae’r IRA wedi ei greu. A’r hyn fyddai’n sicr o anfon mwy o bobl i freichiau’r Real a’r Continuity IRA fyddai ymateb llawdrwm gan y PSNI a’r fyddin Brydeinig i’r llofruddiaethau. Hynny yw – yr union beth y mae’r grwpiau yma yn ceisio ei ennyn. Er mwyn trio osgoi ymateb o’r fath gan yr awdurdodau, mae’n rhaid i SF barhau i gydweithredu – trwy annog pobl i roi gwybodaeth i’r heddlu ac yn y blaen. Hynny yw – yr union ymddygiad sy’n cael ei weld fel brad gan lawer o bobl mewn cymunedau gweriniaethol, ac sy’n denu cefnogaeth i’r grwpiau parafilwrol.

Ac mae’r ffaith fod rhaid i Sinn Féin wisgo o’r newydd ei hen fantell fel mudiad sy’n gweithredu o fewn deinameg trais y Gogledd yn mynd i’w gwneud hi’n anos fyth i Gerry Adams a’i dîm ddatblygu Sinn Fein fel plaid ddemocrataidd, fodern yn y Weriniaeth.

 


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Golygyddol - Hawliau dynol a’r Cymry Cymraeg

Ymlaen >

Poteli Corona a photiau jam