Thema dywyll Thema golau

Pleidlais Americanwr

 

Gellir dweud rhywbeth tebyg am Geidwadwyr Prydain; nid ydynt yn geidwadol yn yr ystyr Americanaidd. A dweud y gwir, wrth gael cip bach ar faniffesto'r British National Party (maddeuwch fi Duw; gwaith ymchwil ar gyfer y golofn hon), rhaid dweud na fyddai fy mam-yng-nghyfraith yn debyg o gytuno â nhw chwaith. Byddai'r stwff ynglyn â rhoi'r bai am bopeth ar dramorwyr yn dderbyniol......ond cefnogaeth i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol?! Uffern!

Yn ôl ei dehongliad hi o'r byd, mae yna ddau fath o berson: pobl sy'n byw yn America, a phobl sy'n casáu America. Ac, wrth gwrs, o fewn y grep cyntaf mae yna ddau fath o Americanwr: y rheiny sy'n pleidleisio tros y Republicans, a'r rheiny sy'n casáu America. Drwg yn ddau ddyblyg ydw i a'm gwraig felly. Gallaf ddychmygu ei bod yn ystyried (eto) dileu ein henwau o'i hewyllys.

Ac eithrio senario 2000-aidd – pan fu'r llysoedd yn trafod y bleidlais am wythnosau lawer – bydd America yn dewis ei arlywydd nesaf yn y mis hwn. Ac wrth ysgrifennu hon ymddengys y byddem ni, y bobl sy'n casáu America, yn ennill y dydd. Ond yn anffodus, ni ddiflanna fy mam-yng-nghyfraith. Neu ei bath. Mae yna filiynau ar filiynau o bobl ar hyd a lled yr Unol Daleithiau sy'n meddwl yn yr un modd â hi. Pobl sydd gan ond yn ymateb i feirniadaeth wleidyddol o'r famwlad gyda un ymadrodd : "Love it or leave it."

Yn y cyfamser, cyhoeddwyd ym mis Hydref bod llywodraeth Prydain am leihau'r nifer o fewnfudwyr i'r wlad. Yn benodol mae am leihau'r nifer o fewnfudwyr sy'n dod o'r du allan i'r Undeb Ewropeaidd. Ar y BBC, wrth son am y bobl hyn dangosir yr un ddelwedd o nyrs Ffilipinaidd trosodd a throsodd. Ond cynhwysir fy ngwraig a minnau, a rhagor na 155,000 o Americanwr yn y grep annymunol hwn hefyd. Mewn gwirionedd, yn ôl ffigyrau 2001, y pumed grep mwyaf o breswylwyr tramor Prydain yw Americanwyr – tu ôl i fenwfudwyr o India, Pakistan, yr Almaen a'r Caribî.

Er, rhaid cyfaddef nad ydw i erioed o'r blaen wedi meddwl am fy hunan fel tramorwr "go iawn" wrth fyw yng Nghymru. Pan soniwn ni am dramorwyr – yma; yn yr Unol Daleithiau; bron unman yn y byd – mae ganddynt arwyddocâd negyddol. Y bobl hynny ydynt. Y bobl ddrwg. Y bobl a ddaeth i gipio ein swyddi a byw ar ein budd-daliadau. Ni choeliwn i hynny, wrth gwrs, ond gwyddwn yn ddigon sier taw nid un ohonyn “nhw” oeddwn i. Ond, fe ydw i. I'm the bad guy. Yn America, y person anwladgarol ydw i; ym Mhrydain, y person sy'n tanseilio cymdeithas ydw i.

Rydw i'n canfod fy hunan, felly, mewn sefyllfa o deimlo nad oes croeso yn unrhyw le. Mewn ffordd od, ffordd ddosbarth-canol, ffordd athronyddol, rydw i'n berson heb gartref. Mae yna ddwy wlad nad oes eisiau fi. Ac mae gan hyn effaith gref arnaf. Mae'n anodd esbonio'r teimlad. Mae fel petai fy mod wedi gofyn i ferch dlos fynd i weld ffilm â fi, ond wedi cael fy ngwrthod. Er, mae'n wrthodiad a ddaeth nid yn unig oddi wrthi hi ond oddi wrth sawl miliwn o bobl. Mae'n llythyr 'Dear John' gan genedl gyfan. Ni theimlaf yn gyflawn.

Ac eto, gwn fy mod yn lwcus. Nid tramorwr o ddifrif ydw i. Dim ond pobl wallgof sy'n cadw draw oddi wrthaf. Petawn i'n cael fy ngorfodi i ddychwelyd “adref”, byddai yna swyddi ar gael, a phocedi o bobl sy'n casáu America cymaint â fi. Sut mae'n teimlo i fod yn un o'r tramorwyr "go iawn" tybed? Sut deimlad yw gwybod nad oes gennych ddim i ddychwelyd ato; eich bod wedi dod i Brydain i weithio a chyfrannu a bod yn rhan o rywbeth gwell, dim ond i glywed mai rhan o rhyw gyfanswm mwy ydych chi – a bod yna bobl sydd yn meddwl bod y cyfanswm hwnw yn rhy uchel o lawer?


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Popeth yn Gymraeg

Ymlaen >

Oblegid ein plant...