Mae hen edrych ymlaen at ddrama gyntaf Tudur Owen gan y gynulleidfa driw y mae o wedi’i hadeiladu dros y chwarter canrif diwethaf ac mae’n debyg y byddant yn disgwyl tipyn o hiwmor. Ond er y bydd hwyl a chwerthin yn rhan o’r cynhyrchiad, mae’r digrifwr a’r darlledwr o Fôn yn gobeithio mai mwynhau ‘stori fach dda’, yn fwy na dim, fyddan nhw wrth wylio Huw Fyw. Mae o hefyd yn gobeithio y bydd y ddrama’n agor drysau theatr Cymru i gynulleidfa newydd.
Mae cwmni Theatr Cymru yn ymarfer yn Theatr Bute, Coleg Cerdd a Drama Cymru, tra ydw i’n sgwrsio efo Tudur, ac yntau wedi dod o hyd i stafell ddistaw i gynnal y cyfweliad dros y we.
‘Maen nhw wrthi’n adeiladu’r set o’n cwmpas ni,’ meddai. ‘Mae’n anhygoel! Elin Steele, hogan o Sir Fôn, ydi’r cynllunydd – a dyna un o’r petha gora am yr holl beth – cael fy amgylchynu efo’r holl bobol ryfeddol o dalentog ’ma yn ffocysu ar bwt o beth dwi ’di sgwennu!’