Thema dywyll Thema golau

Pobl Ddu a’r Gymru Gymraeg

erthygl-mai-2021-2224-1128 erthygl-mai-2021-2224-1128
Blwyddyn wedi protestiadau Black Lives Matter, a gyda’r sylw cynyddol i hanes pobl ddu, mae’r rhan fwyaf yn gwybod fod pobl ddu wedi byw yng Nghymru ers canrifoedd. Ond llai adnabyddus efallai yw bod pobl ddu wedi bod yn bresenoldeb cyson yn y Gymru Gymraeg. Ceir tuedd o hyd mewn rhai cylchoedd i feddwl am amlethnigrwydd fel ffenomen Seisnig. Ond nid yn y dinasoedd mwy Saesneg eu hiaith yn unig y bu pobl ddu yn trigo, ac yno hefyd wrth gwrs roedd poblogaeth ddu fechan a fedrai Gymraeg. Yn wir, gellid olrhain y presenoldeb du yng Nghymru yn ôl i wreiddiau Rhufeinig a Brythonig y wlad. Hynny yw, roedd pobl ddu ynghlwm wrth amodau ffurfiant y genedl Gymreig. Mae’n rhaid fod milwyr du yn y llengau Rhufeinig a wasanaethai yng Nghymru. Fe’u ceid mewn dinasoedd Rhufeinig ym Mhrydain fel Efrog, ac yn y gwersylloedd milwrol ar hyd Mur Hadrian. Pam y byddai’n wahanol yng ngorllewin yr ynys?

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-mai-2021-2223-1127

‘Yma o Hyd’ yma o hyd

Ymlaen >
erthygl-mai-2021-2226-1129

Maes chwarae i’r ailgymysgwyr