Thema dywyll Thema golau

Pobol leol yn unig?

Golygfa gyda char unig ar draeth Ynyslas Golygfa gyda char unig ar draeth Ynyslas
‘Locals Only’ yw enw prosiect diweddaraf Maxime Voidy a fu’n artist preswyl yn Aberystwyth yn ddiweddar. Y brîff a osododd y Llydäwr o Rennes iddo’i hun oedd ymchwilio i effaith twristiaeth ar gymunedau arfordirol a hynny a ddenodd Ganolfan y Celfyddydau i gynnig preswyliad iddo. Roedd yn awyddus i ymchwilio i effaith y diwydiant ymwelwyr ar gymdogaethau Ceredigion. Daw teitl y prosiect o’r graffiti a welodd yn yr Algarve, Portiwgal, sy’n amlygu’r eithafion sy’n perthyn i dwristiaeth. ‘Dyma ardal fwya llwm y wlad,’ meddai’r artist, ‘lle mae ’na lawer o fewnfudwyr o ogledd Affrica a lle mae ’na dlodi enbyd yn bodoli ochr yn ochr â gwestai pum seren.’ ‘Mae’n bwnc sensitif,’ meddai ynglŷn â’r prosiect sy’n cwmpasu cymunedau tu hwnt i Gymru hefyd. ‘Rwyf wedi dysgu peidio â dod i unrhyw gasgliadau. Yn sicr mae ’na broblemau sy’n gyffredin ond mae gan bob ardal ei nodweddion penodol, ei hunaniaeth a’i phoblogaeth ei hun.’

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
Merch mewn lifrau milwrol yn gafael mewn tusw mawr o flodau

Rhyw flodau rhyfel

Ymlaen >
Hanan Issa

Pastynu yn Gymraeg, Saesneg ac Arabeg