Thema dywyll Thema golau

Poenau Tyfu

 

A minnau’n unig blentyn mewn ty heb deledu, roedd cadw dyddiadur yn gam naturiol, ac mae ’na docyn ohonyn nhw yn yr atig. Petha digon diniwed ydi dyddiaduron y blynyddoedd cynradd – ac maen nhw’n Gymraeg a Saesneg bob yn ail ddiwrnod, er mwyn imi ddatblygu fy sgiliau sgwennu yn y ddwy iaith ar yr un pryd. Hen swot bach annioddefol, ’ta be? Ond mae cyfrolau’r arddegau yn stori wahanol, wrth gwrs. Dwi ’di cael gwared ar ambell i flwyddyn ac yn difaru braidd, ond ’dach chi’n gwbod fel mae hi – oddan nhw jyst mor embarasing, ia.

Ond os nad ydi dyddiaduron eich arddegau yn gwneud i chi wingo, wel, ’dach chi ’di gwneud rwbath yn rong. Neu ddim digon o betha’n rong, ’w’rach. A dyna gododd fraw arna’i ar ôl clywed bod yr anghenfil o gwmni ffilmiau DreamWorks wedi prynu’r hawliau ffilm i ddyddiaduron merch 15 oed o America o’r enw Maya Van Wagenen fis diwethaf. Hogan gyfoethog – a dewr. Mae’r syniad o ddinoethi fy nyddiaduron i’r cyhoedd yn gwneud imi fod isio gwag-gyfogi i’r sinc fel hogan ysgol ar ôl gormod o Diamond White.

Rwan, mae ysgrifau Maya yn swnio’n dipyn difyrrach na fy rhai i yn ei hoed hi, gan iddi symud ty yn 11 oed, a defnyddio cyfrol o’r 1950au ar sut i fod yn boblogaidd i’w helpu i wneud ffrindiau, gyda chanlyniadau annisgwyl mae’n debyg. O edrych yn frysiog drwy’n sgribls i am yr un cyfnod, mae’n ymddangos mai’r peth mwya cynhyrfus ddigwyddodd i mi oedd bod amser darlledu Neighbours wedi newid o amser cinio i amser te. ‘DWI’M YN CWYLIO HYNNA, OMAIGOD!!!!’

Mae pethau’n poethi ar ôl fform 5, fodd bynnag – yn llythrennol felly, gan imi losgi lot o’r dystiolaeth...

Dwn i ddim faint o ysgrifennu dyddiaduron sy ’na bellach ymhlith pobol yn eu harddegau, ac ’w’rach nad ydyn nhw’n gweld yr angen i wneud, gan fod pob eiliad o’u bywydau yn cael ei gofnodi mewn hun-lun (llun ohonyn nhw eu hunain, y ‘selfies’ bondigrybwyll) ar ryw wefan gymdeithasu neu’i gilydd. Dwi’n gwbod y petha ’ma, achos mae fy ngliniadur i’n llawn dop o luniau o’m merch yn gwneud ceg sws arni hi ei hun. Os ydan ni’n darllen er mwyn gwybod nad ydan ni ar ein pennau’n hunain, mae tynnu ‘selfies’ bob munud yn dangos ein bod ni'n ddigwmni, ac eto mae pob delwedd yn sgrechian am ymateb ac am gysylltiad efo rhywun, efo unrhyw un. Plîs ‘hoffwch’ fi, a plîs hoffwch fi hefyd.

’W’rach y gwna’i ailafael yn y dyddiadura, pwy â wyr. A phan ddaw mis Ionawr, mi fydda’i’n agor y dyddiadur glân, newydd sbon danlli grai. Mi fydda’ i’n arogli’r papur ac yn taenu bys dros y clawr. Mi wna’i bendroni uwchben y beiros newydd, cyn dewis yr un sy’n sgwennu neisia. A mi gychwynna’i arni yn llawn brwdfrydedd a gobaith a llawysgrifen daclus.

Cyn rhoi gif-yp ym mis Chwefror, efo gwynab tin.

 


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Y Stabl Wag

Ymlaen >

Y Mab Afradlon – dychweliad Roy Keane