Thema dywyll Thema golau

Portreadu dewines y tannau

Elinor Bennett gyda'i thelyn Elinor Bennett gyda'i thelyn
Bydd dathlu mawr dros dymor y Pasg eleni yn Galeri yng Nghaernarfon. Rhwng 5 ac 11 Ebrill cynhelir Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru – y bumed, a’r olaf dan gyfarwyddyd artistig Elinor Bennett ar ran Canolfan Gerdd William Mathias. Sawl carreg milltir nodedig, felly, ond ar ben hynny, trwy gyd-ddigwyddiad, yn ystod y mis bydd Elinor yn dathlu ei phen-blwydd yn 80. Rwy’n siŵr y bydd y mwyafrif ohonom yn gyfarwydd â’r cyfraniad aruthrol a wnaeth i’n bywyd celfyddydol fel cenedl dros y degawdau. Ond ar yr un pryd, mae Elinor yn bresenoldeb mor ifanc ac afieithus ei hysbryd fel y bydd llawer – fel fi – yn synnu wrth feddwl bod y pen-blwydd hwn yn agosáu. Bwriad hyn o lith, yn rhannol, yw crynhoi ambell uchafbwynt yng ngyrfa gerddorol Elinor i nodi’r achlysur arbennig ond hefyd i sôn am brosiect Portread Pen-blwydd i Elinor dros y flwyddyn sydd o’n blaenau. Daeth y syniad imi wrth ddarllen cyfrol yr arlunydd athrylithgar David Griffiths, Hunanbortread (gol. Arfon Haines Davies).

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
Cloriau amryw argraffiadau o'r nofel To Kill a Mockingbird

Cefnu ar feddylfryd y ‘gwaredwr gwyn’

Ymlaen >
Christine Pritchard

Christine Pritchard (1942-2023)