Ers talwm, pan oeddwn i’n hogan fach yn mynd i siop y pentra i wneud negas i Mam, mi fyddwn i ambell dro yn cael potel o Gorona am fynd. ‘Dandelion and Burdock’ oedd fy ffefryn i, ac ar ddyddiau poeth yn yr haf mi fyddwn i’n loetran ar fy ffordd adra wrth y nant, ac yn rhoi’r botel i oeri yn y dwr rhedegog, clir. Swllt a naw oedd pris potel Gorona ’radeg honno ac roedd ’na dair ceiniog yn ôl os oeddech chi’n dychwelyd y botel wag. Ac i gael tair ceiniog yn ôl yn ystod y pumdegau, roedd hi’n werth gwneud yn siwr eich bod yn dychwelyd y botel a’r top i’r siop!
Roedd ailddefnyddio poteli yn digwydd yn naturiol ac roedd yr un peth yn union yn digwydd efo poteli llefrith. Pawb yn golchi’r poteli llefrith gwydr a’u gosod y tu allan i’r drws i’w casglu drannoeth. Roedd ’na ailddefnyddio darbodus yn digwydd efo potiau jam hefyd. Doedd fiw taflu ’run o’r rhain. Na, roedd yn rhaid eu cadw nhw nes doi’r hydref a chyfle i’w defnyddio wrth wneud jam a siytni.
Bellach, ailgylchu ydi gair mawr yr oes. Da chi, peidiwch â fy nghamddeall i. Dwi’n gredwr cryf mewn ailgylchu ac mae angen mynd ati i ailgylchu gymaint fyth ag y gallwn ni o bopeth, ond tybed a ydan ni’n gwneud hynny yn y ffordd orau bosibl?
Mae’n rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru sicrhau bod yna gyfleusterau ailgylchu ar gael i’w trethdalwyr, ac mae ’na dargedau pendant y mae’n rhaid i ni fel gwlad eu cyrraedd. Cyhoeddwyd y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff diwygiedig yng nghyfnodolyn swyddogol yr Undeb Ewropeaidd (OJEU) ar 22 Tachwedd 2008, ac mae’n rhaid i hwn gael ei ymgorffori’n rhan o gyfraith y DU erbyn 12 Rhagfyr 2010.
Beth mae hyn yn ei olygu ydi y bydd yn rhaid i ni ailgylchu 50% o’r gwastraff (wrth ei bwysau) sy’n dod o’n cartrefi erbyn 12 Rhagfyr 2020 ac mae hyn yn cynnwys papur, metel, plastig a gwydr. Yn glir fel gwydr? Mi ddylai fod, ond yn anffodus dydi pethau ddim mor ddidrafferth â hynny, ac mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) wedi dadlennu y dylai gwastraff gwyrdd a bwyd gael ei gyfri yn yr 50% o ailgylchu yma. Mae eraill yn dadlau y dylid eithrio’r gwastraff bwyd a’r gwastraff gwyrdd o’r targed, ac mi all hyn greu cur pen i rai awdurdodau lleol.
Mae Cyfeillion y Ddaear ar y llaw arall yn credu y dylem allu ailgylchu o leiaf 80% o’n gwastraff. Yn ôl Cyfeillion y Ddaear, mae’n gywilydd gwlad mai dim ond tua 25% o’n gwastraff rydan ni’n ei ailgylchu yn y DU. Mae’r Swistir, yr Iseldiroedd a’r Almaen yn ailgylchu tua 60% o’r gwastraff o’u cartrefi, ac mae Fflandrys yng Ngwlad Belg yn llwyddo i ailgylchu dros 70%. Ers i dargedau ailgylchu statudol gael eu gosod yn 2000, mae awdurdodau lleol wedi gwneud gwelliannau mawr i’w gwasanaethau ailgylchu, ond mae ’na gryn dipyn i’w wneud eto cyn y llwyddwn i gyrraedd targedau’r Undeb Ewropeaidd.
Cymrwch chi wydr, er enghraifft. Mae’n bur debyg mai’r Eifftiaid, tua phedair mil o flynyddoedd yn ôl, wnaeth ddefnyddio gwydr gyntaf ac mae tystiolaeth archeolegol yn awgrymu bod gwydr wedi’i wneud am y tro cyntaf yng ngogledd Syria, ym Mesopotamia ac yn yr Aifft. I bob pwrpas yr un elfennau sydd wedi’u defnyddio i wneud gwydr ers y dechrau ac mae tywod (silica), calch a soda yn dal i fod yn gyfrifol am tua 90 % o’r gwydr sy’n cael ei gynhyrchu drwy’r byd. Erbyn heddiw defnyddir deunyddiau crai pur, eu pwyso’n ofalus ac yna eu cynhesu mewn ffwrneisi anferth sy’n gallu dal mwy na 1,000 tunnell o wydr tawdd. Rhaid codi gwres y ffwrnes i tua 2,800 gradd Fahrenheit.
Wrth ailgylchu gwydr, mae angen ei ddidoli i’r gwahanol liwiau, er mi ellwch ailddefnyddio gwydr sydd wedi’i lygru gan liw mewn gwydr ffibr ar gyfer insiwleiddio neu fel cynhwysyn wrth wneud concrid. Gwydrach neu ysgyrion gwydr (cullet yn Saesneg) ydi’r term am wydr sydd wedi’i falu. Mae’r ysgyrion gwydr yn toddi ar wres is na’r deunyddiau crai (fel tywod), ac am ei fod yn cyflymu’r broses, mae cryn dipyn o ynni yn cael ei arbed, felly mae’n bwysig iawn ein bod yn ailgylchu gwydr.
Gall y gwydr sydd wedi cael ei ailgylchu fod yn ôl ar y silff o fewn deg diwrnod ar hugain. Mae hynny’n ardderchog wrth gwrs ond tybed nad oes yna le i fireinio’r broses o ailgylchu gwydr hyd yn oed ymhellach? Ydan ni’n ailgylchu gwydr yn y ffordd fwyaf darbodus? Bob tro rydan ni’n gollwng potel i’r banc ailgylchu, mae hi fel rheol yn malu’n shwtrws ac mae angen ailffurfio’r gwydr.
Mae’n cymryd llawer iawn o ynni i wneud gwydr – tua 2800 °F neu 1538 °C. Er mwyn sterileiddio gwydr, ffwrn aerglos a ddefnyddir fel rheol ac mae’r ffwrn yn defnyddio stêm sydd wedi’i gynhesu i 121 °C neu 134 °C. I sicrhau bod poteli neu jariau gwydr wedi eu diheintio (neu ei sterileiddio), mae angen eu cadw am tua 20 munud ar 121 °C neu 3 munud ar 134 °C. Ond dwi’n siwr y cytunwch efo mi fod byd o wahaniaeth rhwng 134 °C a 1538°C, sef y tymheredd sydd ei angen i gynhyrchu gwydr!
Gan ei fod yn defnyddio cymaint yn llai o ynni i ddiheintio gwydr yn hytrach na’i ailffurfio, mae’n deg felly gofyn pam nad ydym yn defnyddio’r dechneg o ddiheintio poteli a jariau? Fe ddylai’r broses fod yn un ddigon syml – dyma sydd wedi digwydd ac yn dal i ddigwydd efo poteli llefrith gwydr. Oni fyddai’n gwneud llawer mwy o synnwyr i ni fod yn mynd â’n poteli yn ôl i’r archfarchnad lle y gwnaethom eu prynu, yn wythnosol, yn hytrach nag aros ar y ffordd wrth ryw fanc ailgylchu a’u malu nhw’n rhacs, neu aros i’r Awdurdod Lleol eu casglu nhw?
Fe ddylai hyn hefyd gwtogi ar nifer y poteli a’r jariau plastig rydan ni’n eu defnyddio. Onid ydi’n iawn i ni fod yn dychwelyd y poteli a’r jariau i’r archfarchnad ac i’r archfarchnad honno wedyn eu hanfon yn uniongyrchol i’r cynhyrchwyr? Efallai y bydd angen codi rhagor ar y poteli yma ond byddai’r arian, yn union fel y botel Gorona ers talwm, yn dod yn ôl i’r cwsmer wrth ddychwelyd y poteli gwag.
Rydw i’n cymeradwyo’n fawr ymgais Llywodraeth y Cynulliad i godi 20c ar fagiau plastig er mwyn ceisio sicrhau bod pawb ohonom yn ailddefnyddio bagiau. Fy unig bryder i ydi na fydd 20c yn ddigon a bod angen codi o leiaf 50c er mwyn ein gorfodi i feddwl ddwywaith cyn prynu bag plastig diangen. Siawns na allai’r un math o gynllun weithio efo poteli gwydr. Os codwch chi grocbris ar boteli plastig, buan iawn y byddem yn newid ein harferion gwastrafflyd ac yn anelu am y poteli gwydr lle y gellwch gael arian yn ôl arnyn nhw.
Mae ’na fanteision eraill hyd y gwela i, i ailddefnyddio’r un poteli a jariau. Un gwyn fawr gan gwmnïau sy’n ailgylchu gwydr ydi fod yna ormodedd o ambell i botel o liw arbennig. Petai yna ddeddfwriaeth yn gorfodi cwmnïau i gymryd eu poteli yn ôl, buan iawn y byddai’r broblem hon hefyd yn cael ei datrys.
Ar hyn o bryd yr Awdurdodau Lleol sy’n gyfrifol am yr ailgylchu, ac y pen draw nyni fel trethdalwyr sy’n gorfod ysgwyddo’r baich ariannol. Oni ddylai’r llywodraeth fod yn gorfodi’r archfarchnadoedd a’r cynhyrchwyr i dderbyn yn ôl y poteli a’r jariau maen nhw’n eu cynhyrchu, a gwobrwyo’r cwmnïau hynny sy’n fodlon cydweithredu? Ac os oes modd gwneud hyn yn llwyddiannus efo poteli a jariau gwydr, pwy a wyr beth y gallwn ei wneud efo sawl peth arall sy’n cael ei becynnu mewn ffordd wastrafflyd.
Yn yr Almaen maen nhw’n codi tâl ychwanegol am bob tun a photel sy’n cael eu defnyddio. Wrth i chi brynu can o ddiod yn eich siop neu eich archfarchnad leol, mae’r pris yn cael ei ddangos ar y silff. Pan ewch â’r can arbennig hwnnw at y til, mi fydd y pris yn uwch am fod tâl yn cael ei godi am y can ei hun. ‘Rhent’ ydi’r enw sy’n cael ei roi yno ar y caniau, tuniau a photeli hyn. Wrth ddychwelyd y rhain, rydach chi’n cael y ‘rhent’ yn ei ôl.
Dydw i ddim wedi profi ‘Dandelion and Burdock’ ers blynyddoedd, ond tybed nad ydi hi’n bryd i ni gofio gwers yr hen botel Gorona, ac ailgylchu gwydr (a sawl peth arall) mewn ffordd sy’n llawer iawn mwy cynaliadwy a darbodus?
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru

