Thema dywyll Thema golau

Priodasau Cyfartal: Cam yn Nes at Gyfartaledd

Roedd canlyniad pleidlais yr Aelodau Seneddol ddechrau fis Chwefror yn gam hanesyddol pwysig tuag at sicrhau cyfartaledd i gyplau hoyw. Roedd y fuddugoliaeth yn un gyfforddus gyda’r mwyafrif yn pleidleisio o blaid y mesur (400 i 175). Fodd bynnag, mae disgwyl i’r craffu ar y mesur fod yn fanwl a thaer ac nid ar chwarae bach y caiff sêl bendith Ty’r Arglwyddi fis Mai.

Os daw’r mesur yn ddeddf, bydd yn caniatáu i gyplau o’r un rhyw briodi mewn seremonïau sifil a rhai crefyddol, gyda chaniatâd sefydliadau crefyddol. Bydd hefyd yn caniatáu i gyplau sydd eisoes wedi uno drwy bartneriaeth sifil briodi.

Yn dilyn y bleidlais yn Nhy’r Cyffredin, disgrifiodd y gwleidydd Tim Loughton amseru’r bleidlais fel ‘rhwystr anghyfleus’. Roedd o’r farn fod pethau pwysicach i’w cyflawni’n wleidyddol na mesur fel hwn. Siom oedd clywed y fath safbwynt. Efallai wir mai ‘rhwystr anghyfleus’ yw mesur o’r fath i wleidyddion fel Loughton, ond i gyplau hoyw ar hyd a lled y wlad byddai deddf o’r fath yn caniatáu iddyn nhw fyw eu bywydau gan fwynhau yr un hawliau â chyplau heterorywiol.

Trueni hefyd oedd deall bod yr wyth aelod Ceidwadol o Gymru wedi pleidleisio yn erbyn y mesur – prawf pellach fod y bleidlais wedi creu rhwyg ddofn a chwerw ym mhlaid Cameron. Mae rhywbeth gwrthun ynglyn â gwleidyddion sydd wedi priodi eu hunain yn gwadu’r hawl i gyplau eraill briodi a hynny ar sail eu rhywioldeb. Mae’r fath safonau dwbl yn amlygu diffyg cyfartaledd a statws israddol cyplau hoyw yn ein cymdeithas heddiw.

Yn sgil y trafodaethau diweddar, mae llawer un wedi disgrifio’r ddeddf arfaethedig fel mesur ‘dadleuol’. Wn i ddim beth sy’n ddadleuol mewn ceisio cyfartaledd. Nid pleidlais am freintiau arbennig yw’r bleidlais hon, ond pleidlais am gyfartaledd. Mesur yw hwn i sicrhau bod cyplau o’r un rhyw yn cael priodi gerbron Duw os ydyn nhw’n mynnu, fel y mae cyplau heterorywiol eisoes yn ei wneud heb feddwl ddwywaith.

Mae’r bleidlais yn Nhy’r Cyffredin wedi profi un peth – bod mwyafrif gwleidyddion yr oes oleuedig hon yn barod i symud ymlaen, i ddathlu amrywiaeth, i gynnig cyfleoedd cyfartal ac i beidio gwahaniaethu ar sail rhywioldeb. Mae’n anghyfreithlon gwahaniaethu ar sail hil – pam felly y mae rhai’n teimlo bod parhau i wahaniaethu ar sail rhywioldeb yn dderbyniol? Mae’n hen bryd i ni ffarwelio â’n deinosoriaid a’u gadael yn nhywyllwch eu hogofâu cyntefig i ymdrybaeddu yn eu theorïau homoffobaidd.

 


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Unoliaethwyr Cenedlaetholgar Cymru

Ymlaen >

Wylfa B Wnaiff Gadw'r Lampau Ynghyn - Ond Gochelwn