Thema dywyll Thema golau

Pysgodyn rhew Jona

erthygl-mawrth-2022-2323-1216 erthygl-mawrth-2022-2323-1216
Trafod hanes Jona y mae ysgol Sul oedolion capel Emaus Bangor wrth imi ysgrifennu. Trwy gydol fy ngyrfa broffesiynol bu ymddygiad dŵr a biocemeg molecylau cymhleth sy’n cynnwys siwgrau yn ganolog i’m gwaith. Unwyd y tri pheth hyn mewn hanes a gyhoeddwyd yn Current Biology ganol mis Ionawr wrth ddatgelu’r nythfa fwyaf o bysgod a welwyd erioed yn nyfroedd rhewllyd yr Antarctig. Roedd yno dros 60 miliwn o nythod dros ardal yn ymestyn dros 93 milltir sgwâr. Darganfuwyd y nythfa ar hap gan Autun Purser a’i gyd-weithwyr o fwrdd y Polarstern, llong ymchwil yr Alfred-Wegener-Institut, flwyddyn yn ôl. Y cyswllt ag Emaus yw mai Pysgod Rhew Jona (Neopagetopsis ionah) yw penseiri’r nythod. Er nad ydynt lawn digon mawr i lyncu proffwydi, nid pysgod bychain mohonynt gan eu bod yn mesur tua dwy droedfedd o hyd. Ond rhyfeddod y pysgod yma i mi yw eu dawn i oroesi o gwbl yn nyfroedd yr Antarctig, dyfroedd sy’n aml yn oerach na rhewbwynt eu gwaed.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-mawrth-2022-2322-1215

Y di-blant dan y lach

Ymlaen >

Cip ar weddill rhifyn Mawrth