Canodd y teleffon, ac atebais ef.
‘Dr Morgan?’
‘Ie.’
‘Syrjeri Coed-y-glyn sy ma. Ddowch chi i fewn i gael pigiad ffliw, y nghariad i?’
Yn serchiadol fel yna y mae’r hyfrytaf o dderbynwragedd y feddygfa bob amser yn cyfarch ei chleifion.
‘A gaf i bigiad yr eryr yr un pryd, os gwelwch yn dda?’
‘Wrth gwrs y cewch chi, nghariad i. Dach chi’n rhydd ddydd Iau am dri?’
A’r dydd Iau am dri i mewn â mi. Gan imi ddarllen catalog Gwledd y Nadolig Cyngor Llyfrau Cymru cyn mynd, a gweld ynddo hysbysebion am ddwsin o hunangofiannau, gofynnais i Nyrs Jane a gawn i drydydd pigiad.
‘A ph’un yw honno?’ gofynnodd gyda’i phlaendra deniadol arferol.
‘Pigiad rhag hunangofiantitis,’ atebais.
‘Ddim ar yr NHS,’ ebe hi. ‘Ond fe’i cewch am dâl.’ Ac fe’i cymerais.
Aeth ychydig ddyddiau heibio. Ni ddioddefais ddim o’r ffliw, ac ni chefais yr un bangfa eryrol. Ond mi gefais y twtsh lleiaf o hunangofiantitis. Wrthi’n darllen yn y Times ddetholiadau o’r cofiant newydd i Roy of the Rovers yr oeddwn pan afaelodd dimeiwerth o’r dwymyn ynof. Yn fy myw ni allwn beidio â mynd yn ôl drigain mlynedd i gofnodi fel yr awn unwaith yr wythnos, o’r Ysgol Ramadeg yn Rhydaman i’r siop bapur-newydd oedd ar bwys gorsaf fysus James, i brynu copi o’r Tiger. Yn y comic newydd sbon hwnnw y ganed ac y maged Roy Race, seren dra disglair Melchester Rovers, pêl-droediwr na ddeuai George Best, y ddau Ronaldo, Messi a Bale, hyd yn oed o’u rowlio’n un, ddim yn agos at gystadlu â’i gampau chwaraeyddol a’i anturiaethau goruwch-hanesyddol.
Ar hynny bach aeth y twtsh o hunangofiantitis heibio. Yr oeddwn wedi bwriadu adrodd bod y Central Cafe gyferbyn â’r siop bapur-newydd honno yn Rhydaman. Ac i mi yn y caffe hwnnw, naw mlynedd yn ddiweddarach, gael ffa pôb ar dost gyda neb llai na Waldo Williams. Ond, fel y dywedais, aeth y dwymyn heibio. Eto, nid cyn i mi ymfalchïo taw un o’r cyfeillion a ddeuai gyda mi i ôl comic Roy Race oedd Roy arall, a ddaeth ymhen blynyddoedd yn ddarlledwr gyda’r gorau ar Radio Wales, Roy Noble.
Brolio yr wyf pan ddywedaf i mi ar gae rygbi yn 1960–61 roddi pás bert i Roy sgorio ar yr asgell yn erbyn Ysgol Ardwyn Aberystwyth, pás bert y mae ef yn fythol ddiolchgar amdani. Brolio ymhellach yr wyf pan ddywedaf fod tîm Mr Noble a mi y tymor hwnnw wedi ennill pob un o’i gemau – camp na chyflawnodd Melchester Rovers mohoni yn ei holl hanes ysblennydd.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
