Lowri Haf Cooke:
Awdur a gohebydd bwyd sy’n byw yng Nghaerdydd. Bu’n gweithio i BBC Radio Cymru cyn troi at ysgrifennu a darlledu’n llawrydd. Ymhlith ei chyhoeddiadau mae Canllaw Bach Caerdydd, Caffis Cymru a Bwytai Cymru, a golygodd Amser Nadolig, cyfrol ddarluniadol o ryseitiau ac ysgrifau atgofus. Mae’n ymddiddori mewn llên, ffilm a theatr.
Gwenfair Griffith:
Mae’n darlithio ar newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd ac wrth ei bodd yn teithio. Ar adegau gwahanol yn ei bywyd bu’n byw yng Nghymru, Canada ac Awstralia ac mae wedi teithio’r byd gyda’i gŵr. Mae wedi golygu dwy gyfrol o brofiadau newyddiadurwyr Cymraeg, Fy Stori Fawr (2023) a Fy Stori Fawr Arall (2025).
Andrew Green:
Rhwng 1998 a 2013 ef oedd y Llyfrgellydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Wedi’i fagu yn Swydd Efrog, mae’n byw erbyn hyn ar benrhyn Gŵyr. Ef yw awdur y gyfrol ddarluniadol Cymru mewn 100 gwrthrych a’r nofel gampws Rhwng y silffoedd. Er 2013 mae’n blogio’n wythnosol fel ‘gwallter’.
Mared Gwyn:
Sylwebydd gwleidyddol sy’n arbenigo mewn materion Ewropeaidd. Mae hi’n gweithio ym myd cysylltiadau cyhoeddus ym Mrwsel ac wedi treulio cyfnodau yn gweithio ym Madrid a Lwcsembwrg. Mae ganddi radd mewn ieithoedd modern o Brifysgol Caergrawnt.
Ann Rhian Hughes:
Ar ôl graddio yn y Gymraeg a chwblhau gwaith ymchwil yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, bu’n athrawes uwchradd. Bu’n gyfieithydd cyn cael ei phenodi yn Ddarlithydd y Gymraeg Lefel A ac yn arweinydd Maes Rhaglen Cymraeg i Oedolion yng Ngholeg Menai. Yn enedigol o Lanfairpwllgwyngyll, mae wedi ymgartrefu ym Mhenmynydd.
Dafydd Jones:
Ymchwilydd ac awdur, a chyn-ddarlithydd mewn celf fodern a chyfoes. Mae wedi cyhoeddi gweithiau ar Dada a Neo-Dada, ac astudiaeth oedd ei gyfrol The Reconciliation of Modernism (2024) o waith Ceri Richards rhwng y ddau ryfel byd. Ef yw golygydd Gwasg Prifysgol Cymru.
Gareth Emlyn Jones:
Peiriannydd sifil sy’n enedigol o’r Rhiw ym mhen draw Llŷn ond sy’n byw ym Mangor ers dros ddeugain mlynedd. Mae’n aelod o Ymddiriedolaeth Treftadaeth Menai ac yn gwirfoddoli yn eu hamgueddfa, Canolfan Thomas Telford ym Mhorthaethwy. Mae hefyd yn hwyliwr brwd.
Sioned Webb:
Pianydd, cyfeilyddes, tiwtor cerdd, beirniad ac awdur o’r Bala’n wreiddiol, ac yn byw bellach yn Llandderfel. Bu’n bennaeth adran gerdd Ysgol Tryfan, Bangor, ac yn Gyfarwyddwr Artistig Canolfan Gerdd William Mathias. Mae’n un o gyflwynwyr y rhaglen radio Swyn ar y Sul.