Alun Wyn Bevan:
Darlledwr, sylwebydd a chyn-reffarî ym myd rygbi. Bu’n gweithio ym maes addysg cyn troi’n ymchwilydd a chynhyrchydd i gwmni teledu Tinopolis. Mae wedi ysgrifennu nifer o lyfrau am chwaraeon yn Gymraeg a Saesneg. Mae’n byw bellach ym Mhentyrch, Caerdydd.
Siân Shakespear:
Mae ei diddordeb ym myd natur wedi’i harwain i dreulio rhannau helaeth o’i gyrfa ym maes cadwraeth. Cychwynnodd gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru ac yn ddiweddar mae hi wedi gweithio i elusennau bywyd gwyllt amrywiol; ar hyn o bryd hi yw Swyddog Cyfathrebu a Pholisi Plantlife Cymru.
Nerys Brown:
Dechreuodd ar ei gyrfa yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth yn 1985 a chyfrannodd yn helaeth (o dan yr enw Nerys Ann Jones) i Gyfres Beirdd y Tywysogion. Mae’n byw yn yr Alban ers blynyddoedd ac yn dilyn gyrfa bellach yn yr Eglwys Esgobol yno.
Elinor Wyn Reynolds:
Bardd, awdur a darlledydd. Cyrhaeddodd ei nofel Gwirionedd restr fer Llyfr y Flwyddyn 2020 a chyhoeddodd gyfrol o farddoniaeth, Anwyddoldeb, yn 2022. Mae’n gweithio fel Swyddog Cyhoeddiadau i Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac yn byw yng Nghaerfyrddin gyda’i theulu.
Huw Ceiriog:
Bu’n gweithio am flynyddoedd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Un o’i orchestion llyfryddiaethol yw’r catalog manwl a gyhoeddodd yn 1995 o archif y bardd a’r artist David Jones. Mae’n fardd medrus ei hunan a bu’n Dderwydd Gweinyddol Eisteddfod Talaith a Chadair Powys.
Geraint Lewis:
Cyfansoddwr, cerddor ac ysgolhaig o Gaerdydd. Cyfansoddodd ddarnau ym mhob ffurf a gweithiodd yn agos gyda William Mathias ac Alun Hoddinott. Mae wedi darlithio, darlledu, cyfarwyddo gwyliau a chadeirio pwyllgorau yn ogystal â chyhoeddi llawer.
Robert Smith:
Brodor o Aberystwyth a raddiodd mewn Hanes ym Mhrifysgol Abertawe. Cyhoeddodd weithiau academaidd ar hanes addysg yng Nghymru a chyfrol ar hanes eglwys Libanus, Gorseinion. Mae’n gynghorydd sir ac yn aelod o gabinet Cyngor Abertawe gyda gofal am addysg.
Megan Tomos:
Cyfieithydd a threfnydd. Bu’n gweithio’n datblygu’r rhaglen gyrsiau Cymraeg yn nyddiau cynnar Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Yna dychwelodd i faes cyfieithu gan ddod yn Brif Weithredwr cyntaf Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru. Ei diddordebau yw llenyddiaeth, cerddoriaeth a phobl.
Angharad Mair:
Darlledydd hynod o brofiadol a Chadeirydd Gweithredol Tinopolis Cymru. Cafodd yrfa ym myd rhedeg gan gystadlu ym Mhencampwriaeth Athletau’r Byd yn Athen yn 1997. Mae’n dilyn timau cenedlaethol pêl-droed Cymru i bedwar ban byd yng nghwmni ei chymar a rhai o selogion Caerfyrddin, ei thref enedigol.