Gareth Wyn Jones:
Athro Emeritws bioleg planhigion a biowyddorau ac yn flaenorol Athro yn Ysgolion Gwyddorau Biolegol a Gwyddorau Amaethyddol a Choedwig Prifysgol Bangor. Ymlith ei gyhoeddiadau mae Energy – the Great Driver: Seven Revolutions and the Challenges of Climate Change a’r gyfrol ddwyieithog Ynni a Phŵer: Ein chwantau peryglus.
Luned Aaron:
Awdur ac arlunydd sydd wedi ysgrifennu a darlunio nifer o gyfrolau i blant ac wedi ennill gwobrau Tir na n-Og a Llyfr y Flwyddyn. Mae hi wedi ysgrifennu dwy nofel i oedolion, sef Porth a Camau Bach. Mae hi’n cyd‑redeg gwasg Llyfrau Broga gyda’i gŵr, Huw.
Mared Gwyn:
Sylwebydd gwleidyddol sy’n arbenigo mewn materion Ewropeaidd. Mae hi’n gweithio ym myd cysylltiadau cyhoeddus ym Mrwsel ac wedi treulio cyfnodau yn gweithio ym Madrid a Lwcsembwrg. Daw’n wreiddiol o Lŷn ac mae ganddi radd mewn ieithoedd modern o Brifysgol Caergrawnt.
Eurgain Haf:
Daw’n wreiddiol o Benisarwaun yn Eryri ond mae erbyn hyn wedi ymgartrefu ym Mhontypridd. Mae’n gweithio fel Uwch Reolwr y Cyfryngau i elusen Achub y Plant Cymru. Mae wedi cyhoeddi nifer o lyfrau ar gyfer plant a straeon byrion ar gyfer oedolion, a hi oedd enillydd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf.
Rhidian Griffiths:
Hanesydd a fu ar staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru gan ddod yn Geidwad Llyfrau Printiedig ac yna’n Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyhoeddus cyn ymddeol. Mae wedi cyhoeddi’n helaeth, yn enwedig ar hanes cerddoriaeth yng Nghymru ac mae’n weithgar gyda Chymdeithas Alawon Gwerin Cymru.
Martin Huws:
Brodor o Gaerdydd sy’n byw yn Ffynnon Taf. Bu’n weithiwr dur, yn swyddog clerigol ac yn ofalwr cyn troi at newyddiadura. Cyhoeddodd ddwy nofel, dwy gyfrol o straeon byrion a chasgliad o gerdd.
Elin Llwyd Morgan:
Yn gyfieithydd a ddechreuodd ei gyrfa fel gohebydd papur newydd, mae’n golofnydd arobryn sydd wedi bod yn ysgrifennu i wahanol gyhoeddiadau ers 30 mlynedd. Ymhlith ei chyhoeddiadau eraill mae dwy nofel a chyfrol o gerddi. Mae’n byw yn Nyffryn Ceiriog gyda’i chymar.
Owain Meirion:
Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith. Yn wreiddiol o Ddolgellau, mae bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio yn Senedd Cymru. Bu’n weithgar gyda’r Gymdeithas ers sawl blwyddyn gan weithio iddi fel Swyddog Cyfathrebu a Chyswllt Gwleidyddol rhwng 2023 a 2025, ac ers hynny wedi parhau fel aelod o’i grwpiau ymgyrch Addysg a Digidol.
Elinor Wyn Reynolds:
Bardd, awdur a darlledydd. Cyrhaeddodd ei nofel Gwirionedd restr fer Llyfr y Flwyddyn 2020 a chyhoeddodd gyfrol o farddoniaeth, Anwyddoldeb, yn 2022. Mae’n gweithio fel Swyddog Cyhoeddiadau i Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac yn byw yng Nghaerfyrddin gyda’i theulu.
Catrin Evans:
Yn enedigol o Glydach, Cwmtawe, dechreuodd ei gyrfa fel newyddiadurwraig gyda Radio Cymru, ac yna bu’n ohebydd newyddion BBC Cymru yn Abertawe ac yn ohebydd Ewrop ym Mrwsel. Mae bellach yn uwch‑gynhyrchydd gyda chwmni Tinopolis yn Llanelli, sy’n gyfrifol am raglenni dyddiol S4C Heno a Prynhawn Da. Dyfarnwyd gwobrau BAFTA Cymru i’w chynyrchiadau Adam Price a Streic y Glowyr a Dwy Wraig Lloyd George, gyda Ffion Hague.