Thema dywyll Thema golau

Rhai o gyfranwyr y rhifyn

Meg Elis:
Wedi gweithio fel cyfieithydd, mae’n canolbwyntio bellach ar ysgrifennu rhyddiaith. Mae’n awdur nofelau a storïau byrion, ac ymhlith ei chyfrolau mae I’r GadCyn Daw’r Gaeaf, a enillodd iddi’r Fedal Ryddiaith yn 1985, a Dewch at eich Gilydd. Bydd yn adolygu’n gyson yn y wasg Gymraeg.

Gwenfair Griffith:
Mae’n darlithio ar newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd ac wrth ei bodd yn teithio. Ar adegau gwahanol yn ei bywyd bu’n byw yng Nghymru, Canada ac Awstralia, ac mae wedi teithio’r byd gyda’i gŵr. Mae wedi golygu dwy gyfrol o brofiadau newyddiadurwyr Cymraeg, Fy Stori Fawr (2023) a Fy Stori Fawr Arall (2025).

Emyr Lewis:
Cyn‑bennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth ac Athro Emeritws ynddi bellach. Cyn mynd i’r byd academaidd yn 2019, bu’n Bartner Hŷn (ar gyfer Cymru) gyda phartneriaeth Blake Morgan. Mae hefyd yn fardd medrus sydd wedi ennill cadair a choron yr Eisteddfod Genedlaethol.

Gwilym Morus‑Baird:
Canwr, cerddor ac adroddwr straeon o Wrecsam yn wreiddiol. Mae wedi rhyddhau cerddoriaeth fel Gwilym Morus, Mwnci Nel a phrif ganwr Drymbago, ac roedd yn un o sylfaenwyr Eos, yr Asiantaeth Hawliau Darlledu ar gyfer cerddorion Cymraeg. Mae’n ymddiddori mewn llenyddiaeth Geltaidd ac mae ganddo ddoethuriaeth yn y maes.

Jeremy Evas:
Brodor o Gwm Rhondda, bellach yn byw yng Nghaerdydd. Cwblhaodd ddoethuriaeth Rhwystrau ar lwybr dwyieithrwydd o dan gyfarwyddyd yr Athro Colin H. Williams ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd (fel yr oedd bryd hynny) yn 2000. Bu’n gweithio ym myd polisi iaith byth oddi ar hynny gan gynnwys cyfnod yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Bellach mae’n gweithio yn isadran Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru.

Elin Tomos:
Cynhyrchydd, hanesydd a sgwennwr o Nantperis. O ddydd i ddydd, mae’n gweithio fel cynhyrchydd i gwmni teledu, Cwmni Da yng Nghaernarfon. Yn 2024 cafodd ei henwi ar restr 30 o dan 30 cylchgrawn hanes y BBC.

Ceri Williams:
Brodor o Aberystwyth a raddiodd mewn Cymraeg ac Astudiaethau Americanaidd ym Mhrifysgol Abertawe. Ar ôl bod yn gweithio i Nwy Prydain, Gofal Cymdeithasol Cymru a Chyngor Defnyddwyr Cymru, mae bellach yn arweinydd polisi gyda TUC Cymru.

Robin Gwyndaf:
Cyn‑Guradur Llên Gwerin Cymru yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan. Mae’n awdurdod cydnabyddedig ym maes diwylliant gwerin ac wedi cyhoeddi’n helaeth ynddo. Fe ddaw yn wreiddiol o Uwchaled – yr un fro ag Edward Moris.

Manon Gwynant:
Sgwennwr ac ymarferydd creadigol sy’n gweithio ar draws y gogledd ar brosiectau cymunedol ym maes theatr, llenyddiaeth a cherddoriaeth. Y llynedd cwblhaodd PhD yn adran Gymraeg Prifysgol Bangor yn ymchwilio i fywyd a gwaith J.T. Jones (Porthmadog) a maes cyfieithu, gyda golwg benodol ar gyfieithiadau o ddramâu Shakespeare.

< Yn ôl

Trump, Tsieina a dyfodol Taiwan

Ymlaen >

Ffarwél