Thema dywyll Thema golau

Rhai o gyfranwyr y rhifyn

Catrin Eleri Huws:
Un o Dal‑y‑bont, Ceredigion, yn wreiddiol. Graddiodd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor a gwneud cwrs MA yno hefyd ar lenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol. Mae erbyn hyn yn Olygydd Cynorthwyol gyda Geiriadur Prifysgol Cymru yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth.

Meurig Rees:
Un o Gaerdydd yn wreiddiol, ond mae wedi byw yng ngogledd Cymru ers dros hanner cant o flynyddoedd ac wedi ymddeol erbyn hyn ar ôl gyrfa yn y sector addysg uwchradd. Un o’i ddiddordebau pennaf ers yn blentyn yw beicio, er ei fod yn reidio’n llai aml erbyn hyn (‘mae’r leicra ’di shrincio a’r cymalau’n cwyno’.)

Gareth Ffowc Roberts:
Bu’n Brifathro ar y Coleg Normal ac yn Ddirprwy Is‑Ganghellor ym Mhrifysgol Bangor. Mathemateg yw ei faes a’i ddiléit, ac ehangwyd ei gynulleidfa wrth ddenu pobl o bob oed i fwynhau mathemateg ar y cyfryngau. Cyhoeddodd Mae Pawb yn Cyfrif (2012), ac yna Cyfri’n Cewri (2020) i bwysleisio cyfraniadau Cymry yn y maes.

Lowri Haf Cooke:
Awdur a gohebydd bwyd sy’n byw yng Nghaerdydd. Bu’n gweithio i BBC Radio Cymru cyn troi at ysgrifennu a darlledu’n llawrydd. Ymhlith ei chyhoeddiadau mae Canllaw Bach Caerdydd, Caffis Cymru a Bwytai Cymru, a golygodd Amser Nadolig, cyfrol ddarluniadol o ryseitiau ac ysgrifau atgofus. Mae’n ymddiddori mewn llên, ffilm a theatr.

Mared Gwyn:
Sylwebydd gwleidyddol a newyddiadurwraig sy’n arbenigo mewn materion Ewropeaidd. Mae hi’n gweithio ar hyn o bryd gydag Euronews ym Mrwsel ac wedi treulio cyfnodau ym Madrid a Lwcsembwrg. Clywir ei llais yn aml ar Radio Cymru ac S4C ac mae ganddi radd mewn ieithoedd modern o Brifysgol Caergrawnt.

Fflur James:
Daw Fflur o Lantwd ac mae hi newydd ddychwelyd o Ffrainc lle bu am flwyddyn fel rhan o’i chwrs gradd mewn Cymraeg a Ffrangeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae wrth ei bodd yn ‘sgwennu a chlebran. Mae’n aelod balch o Aelwyd y Waun Ddyfal yng Nghaerdydd, a Chôr y Rhocesi yng Nghrymych, ac yn aelod brwd o Glwb Ffermwyr Ifanc Eglwyswrw.

Hedd Ladd‑Lewis:
Un o Drefdraeth a raddiodd mewn Hanes Cymru ac Archaeoleg ym Mhrifysgol Bangor. Ar ôl bod yn y byd addysg mae bellach wedi gadael dysgu ac wedi ailgydio yn ei ddiddordeb mewn hanes lleol gan arwain teithiau cerdded a darlithio i grwpiau a chymdeithasau ar hyd a lled ei filltir sgwâr. Mae hefyd yn cynnal oedfaon yng nghapeli’r cylch.

Aled Evans:
Yn gyn‑Gyfarwyddwr Addysg, mae bellach wedi dychwelyd i’r dosbarth yn Ysgol Farddol Caerfyrddin. Ef yw awdur y nofel Saith Cam Iolo a chyd‑awdur y cyfrolau Ein Gŵyl, Ein Tref ac Iolo ac Ar Nos Fercher Arferol. Mae’n dod o Gwm Gwendraeth ond yn byw yn Llangynnwr. Ef hefyd yw Ysgrifennydd y Gymdeithas Gerdd Dafod (Barddas).

Adam Pearce:
Cyfieithydd llenyddol sydd â diddordeb mewn ffantasi, ffuglen wyddonol a llenyddiaeth oes Fictoria. Ef yw golygydd Llyfrau Melin Bapur, sy’n cyhoeddi pob math o lyfrau gan gynnwys clasuron llenyddol Cymraeg a chyfieithiadau o glasuron ieithoedd eraill.

Rebecca Thomas:
Awdur a hanesydd o Gaerdydd. Mae’n uwch‑ddarlithydd mewn hanes canoloesol ym Mhrifysgol Caerdydd a chyhoeddwyd ei chyfrol History and identity in Early Medieval Wales yn 2022. Mae wedi ysgrifennu pedair nofel i blant ac oedolion ifanc a’i nofel gyntaf i oedolion oedd Y Tŵr (2025).

Mirain Iwerydd:
Darlledwraig 24 oed o Grymych sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae’n darlledu’n wythnosol ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Cymru 2 a bu’n cyflwyno rhaglenni o Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol. Gwnaeth radd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Eryl Owain:
Brodor o Bont‑ddu yn Ardudwy a chyn athro hanes yn Ysgol Dyffryn Conwy. Mae’n parhau i fynydda’n rheolaidd, yn gyn‑swyddog o Glwb Mynydda Cymru ac ef oedd golygydd y gyfrol Copaon Cymru. Mae ganddo ddiddordeb arbennig yn hanes mynydda yng Nghymru.

Esyllt Maelor:
Cyn‑bennaeth y Gyfadran Iaith yn Ysgol Botwnnog, Llŷn. Hi oedd golygydd Galar a Fi (Y Lolfa) ac mae wedi cyhoeddi llyfrau a deunyddiau addysgol ar gyfer plant a phobl ifanc, a siaradwyr Cymraeg newydd, gan gynnwys Byd Bach (Y Lolfa), cyfrol gan un o’i grwpiau darllen.

Huw Prys:
Golygydd, ymchwilydd a chyfieithydd hunangyflogedig sy’n byw yn Llanrwst. Mae hefyd yn gyn‑ymgynghorydd gwleidyddol ac mae’n arbenigo mewn materion sy’n ymwneud â dosbarthiad daearyddol y Gymraeg.

Llio Eurgain:
Myfyriwr o Fangor sydd ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio Meddygaeth. Mae wedi ennill sawl gwobr am lenydda mewn eisteddfodau gan gynnwys Eisteddfod yr Urdd, ac mae wrth ei bodd gyda cherddoriaeth hefyd.

Elinor Wyn Reynolds:
Bardd, awdur a darlledydd sy’n byw yng Nghaerfyrddin. Bu’n gweithio fel Swyddog Cyhoeddiadau i Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac y mae erbyn hyn yn Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb, y ferch gyntaf i ddal y swydd a’r lleygwr cyntaf ers can mlynedd.

Bethan Kilfoil:
Yn wreiddiol o Ddyffryn Ceiriog, hi oedd gohebydd Ewrop BBC Cymru cyn iddi symud i Iwerddon ugain mlynedd yn ôl. Yn briod a chanddi ddau o blant, y mae bellach yn olygydd prif raglen newyddion nosweithiol gwasanaeth teledu RTÉ. Ymgartrefodd yn Newbridge yn Swydd Kildare.

Gwenan Mared:
Mae’n byw yn Llanfairpwllgwyngyll gyda’i theulu. Yn fwy na dim byd arall mae wrth ei bodd yn bod yn fam, ond gweithia ar ei liwt ei hun pan fydd ei hiechyd yn caniatáu hynny. Dechreuodd adolygu theatr i Barn fel myfyriwr ôl‑radd, ond bellach darllen ffuglen o bob math sy’n mynd â’i bryd.

Arwel Vittle:
Awdur toreithiog yn y maes creadigol a ffeithiol. Ef yw cofiannydd Lewis Valentine ac mae wedi cyhoeddi’n helaeth am hanes y mudiad iaith a’r mudiad cenedlaethol yng Nghymru, gan gynnwys y gyfrol Dros Gymru’n Gwlad (gyda Gwen Angharad Gruffudd) ar hanes sefydlu Plaid Cymru. Fe’i magwyd yn Sir Gaerfyrddin a Chaerdydd.

Alys Môn Griffiths:
Merch o’r Felinheli. Graddiodd mewn Cymraeg o Brifysgol Bangor, ac mae hi bellach yn astudio gradd meistr. Mae hi hefyd yn gweithio’n rhan‑amser yn Pontio, ac yn ei hamser hamdden mae hi’n hoffi cerdded y ci a chymdeithasu.

< Yn ôl

Cwis i’n darllenwyr

Ymlaen >

Baneri