Thema dywyll Thema golau

Rhai o gyfranwyr y rhifyn

Cerian Arianrhod:
Cyn‑gynhyrchydd radio sydd wedi ymgartrefu yng Nghwmbrân. Mae bellach yn Rheolwr Amserlennu gyda gofal dros logisteg dydd i ddydd BBC Radio Cymru, Radio Cymru 2 a chynnwys Cymraeg BBC Sounds. Mae hefyd yn gweithio fel hyfforddwr ar ei liwt ei hun, gan arbenigo mewn arweinyddiaeth, gyrfa a datblygiad personol.

Roger Owen:
Darlithydd yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth. Ymhlith ei gyhoeddiadau mae Ar Wasgar (2003), sy’n cloriannu hanes nifer o gwmnïau theatr Cymraeg rhwng 1979 ac 1997, a Writers of Wales: Gwenlyn Parry (2013). Mae’n ymwneud yn rheolaidd â gwaith cynhyrchu fel cyfarwyddwr a hwylusydd.

Frank Olding:
Mae’n byw yn y Fenni. Bu’n gweithio ym myd archaeoleg ac amgueddfeydd, ond bellach, wedi ymddeol, mae’n dwli ar gloddio ei randir. Mae wedi cyhoeddi erthyglau a llyfrau ffeithiol ar archaeoleg y de‑ddwyrain a dwy gyfrol o farddoniaeth.

Rocet Arwel Jones:
Un o Ros‑y‑bol, Ynys Môn sydd wedi ymsefydlu yn Aberystwyth. Bu’n gweithio yn y Llyfrgell Genedlaethol cyn ymuno yn 2014 â staff y Cyngor Llyfrau lle mae erbyn hyn yn Bennaeth Datblygu Cyhoeddi. Cyhoeddodd sawl cyfrol o gerddi a rhyddiaith.

Elain Roberts:
Daw’n wreiddiol o Bentre’r Bryn ger Cei Newydd. Astudiodd Ffrangeg a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Bryste cyn dechrau gweithio i Blaid Cymru yng Ngheredigion. Mae hi bellach yn byw yn Llundain ac yn gweithio i’r blaid yn San Steffan.

Hefin Jones:
Entomolegydd ac ecolegydd yn Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd. Canolbwyntia ei ymchwil ar fioamrywiaeth, newid hinsawdd ac ecoleg ecosystemau. Mae’n Gymrawd Anrhydeddus o’r Gymdeithas Entomolegol Frenhinol a derbyniodd Fedal Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2018.

Meg Elis:
Wedi gweithio fel cyfieithydd, mae’n canolbwyntio bellach ar ysgrifennu rhyddiaith. Mae’n awdur nofelau a storïau byrion, ac ymhlith ei chyfrolau mae I’r Gad, Cyn Daw’r Gaeaf, a enillodd iddi’r Fedal Ryddiaith yn 1985, a Dewch at eich Gilydd. Bydd yn adolygu’n gyson yn y wasg Gymraeg.

Gwenfair Griffith:
Mae’n darlithio ar newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Ar adegau gwahanol yn ei bywyd bu’n byw yng Nghymru, Canada ac Awstralia, ac mae wedi teithio’r byd gyda’i gŵr. Mae wedi golygu dwy gyfrol o brofiadau newyddiadurwyr Cymraeg, Fy Stori Fawr (2023) a Fy Stori Fawr Arall (2025).

Aled Islwyn:
Nofelydd cynhyrchiol sy’n byw yng Nghaerdydd. Ymhlith ei nofelau mae Sarah Arall, Pedolau dros y Crud a Milwr Bychan Nesta. Yn 1994 enillodd wobr Daniel Owenyr Eisteddfod Genedlaethol am ei gasgliad o straeon Unigolion Unigeddau, y drydedd waith iddo gipio’r wobr, a’r un gyfrol oedd Llyfr y Flwyddyn yn 1995.

< Yn ôl

Dioddefaint y Palestiniaid a’r lleisiau dros heddwch

Ymlaen >

Stori dda am bobl go iawn