Heini Gruffudd:
Ef yw cadeirydd y mudiad pwyso a lobïo Dyfodol i’r Iaith a bu hefyd yn y gorffennol yn gadeirydd cenedlaethol Rhieni dros Addysg Gymraeg. Cyn ymddeol, bu’n athro uwchradd, yn ddarlithydd prifysgol yn Abertawe, ac yn gyfieithydd. Mae hefyd yn awdur profiadol ac ymhlith ei gyhoeddiadau y mae’r enwog Welsh is Fun!
Fflur Jones:
Un o Lanuwchllyn yn wreiddiol a raddiodd mewn Hanes yng Nghaergrawnt cyn gwneud cwrs MA Theori’r Gyfraith a Gwleidyddiaeth yng Ngholeg Prifysgol Llundain. Erbyn hyn mae’n Bartner Rheoli gyda chwmni cyfreithiol Darwin Gray ac yn arbenigo ym maes cyflogaeth ac adnoddau dynol.
Geraint Tudur:
Brodor o Fangor a chyn‑Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Cyn hynny bu’n weinidog am dros bymtheg mlynedd ar Eglwys Ebeneser yng Nghaerdydd, ac yna’n ddarlithydd mewn hanes eglwysig ym Mhrifysgol Bangor. Mae’n awdurdod ar hanes bywyd Howell Harris.
Mared Gwyn:
Sylwebydd gwleidyddol sy’n arbenigo mewn materion Ewropeaidd. Mae hi’n gweithio ym myd cysylltiadau cyhoeddus ym Mrwsel ac wedi treulio cyfnodau yn gweithio ym Madrid a Lwcsembwrg. Daw’n wreiddiol o Lŷn ac mae ganddi radd mewn ieithoedd modern o Brifysgol Caergrawnt.
Arwel Vittle:
Awdur a chyfieithydd proffesiynol sy’n byw yn Dinas ger Caernarfon. Mae wedi cyhoeddi dwy nofel a nifer o lyfrau hanes poblogaidd yn ymwneud â hanes y mudiad cenedlaethol gan gynnwys cofiant i Lewis Valentine, llyfr am hanes sefydlu Plaid Cymru (efo Gwen Angharad Gruffudd) a Brwydr ar y Bryn: 50 mlynedd o UMCB.
Gruffudd ab Owain:
Mae’n hanu o’r Bala ac ef yw golygydd cylchgrawn cerddoriaeth Y Selar. Ers iddo sefydlu blog seiclo Cymraeg ‘Y Ddwy Olwyn’ yn 2018, mae ei waith wedi’i gyhoeddi gan y BBC, Golwg, Croeso Cymru ac eraill. Ar hyn o bryd, mae’n dilyn cwrs Astudiaethau Ewropeaidd yng Ngholeg y Brifysgol, Llundain.
Huw Griffiths:
Bu’n athro ysgol uwchradd ac yn diwtor chweched dosbarth am dros ugain mlynedd cyn newid cyfeiriad. Ar ôl hynny ymunodd â’r Athrofa, sef Adran Addysg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae bellach yn uwch‑ddarlithydd yno, yn darlithio ar y cwrs MA ac yn ymchwilio i addysg a hanes Cymru.
Rhiannon Marks:
Uwch‑ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Ymhlith ei chyhoeddiadau y mae dau fonograff, sef ‘Pe Gallwn, Mi Luniwn Lythyr’: Golwg ar waith Menna Elfyn ac Y Dychymyg Ôl‑fodern: Agweddau ar ffuglen fer Mihangel Morgan.
Elinor Wyn Reynolds:
Bardd, awdur a darlledydd sy’n byw yng Nghaerfyrddin. Mae’n gweithio fel Swyddog Cyhoeddiadau i Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac erbyn hyn hi yw Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb, y ferch gyntaf i ddal y swydd a’r lleygwr cyntaf ers can mlynedd.
