Thema dywyll Thema golau

Rhai o gyfranwyr y rhifyn

Karl Davies
Bu’n Brif Weithredwr Plaid Cymru ac ar staff y BBC cyn treulio rhai blynyddoedd yn Foshan yn ne‑ddwyrain Tsieina, yn dysgu Saesneg i oedolion. Mae bellach yn ôl yng Nghaerdydd ac yn sylwebu’n aml ar faterion cyfoes.

Huw Griffiths
Bu’n athro ysgol uwchradd ac yn diwtor chweched dosbarth am dros ugain mlynedd cyn newid cyfeiriad. Ar ôl hynny ymunodd â’r Athrofa, sef Adran Addysg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae bellach yn uwch‑ddarlithydd yno, yn darlithio ar y cwrs MA ac yn ymchwilio i addysg a hanes Cymru.

Alys Môn Griffiths
Merch o’r Felinheli. Graddiodd mewn Cymraeg o Brifysgol Bangor y llynedd, ac mae hi bellach yn astudio gradd meistr. Mae hi hefyd yn gweithio’n rhan‑amser yn Pontio, ac yn ei amser hamdden mae hi’n hoffi cerdded y ci a chymdeithasu.

Hywel Griffiths
Darllenydd mewn daearyddiaeth ffisegol yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth. Mae hefyd yn fardd ac wedi cyhoeddi pedair cyfrol o farddoniaeth. Enillodd goron Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008 a’r gadair ym Mhrifwyl Maldwyn 2015. Ef yw bardd tref Aberystwyth ar hyn o bryd ac mae’n byw yn Llanbadarn Fawr.

Manon Gwynant
Mae newydd gwblhau PhD yn adran Gymraeg Prifysgol Bangor yn ymchwilio i fywyd a gwaith J.T. Jones (Porthmadog) a maes cyfieithu, gyda golwg benodol ar gyfieithiadau o ddramâu Shakespeare. Mae hefyd yn sgwennwr ac yn ymarferydd creadigol sy’n gweithio ar draws y gogledd ar brosiectau cymunedol ym maes theatr, llenyddiaeth a cherddoriaeth.

Rebecca Thomas
Awdur a hanesydd o Gaerdydd. Mae’n uwch‑ddarlithydd mewn hanes canoloesol ym Mhrifysgol Caerdydd ac wedi ysgrifennu pedair nofel i blant ac oedolion ifanc. Eleni cyhoeddwyd ei nofel gyntaf i oedolion, nofel gampws ddystopaidd o dan y teitl Y Tŵr.

Erin Owain
Arweinydd Risg Hinsawdd a Gwydnwch cwmni Howden yng Nghymru, yn cynghori amrywiaeth o gleientiaid rhyngwladol ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat. Roedd yn gyfrifol am gyd‑ddatblygu’r offeryn sgrinio risg hinsawdd cyntaf yn y byd ar gyfer ardaloedd sy’n tyfu cotwm drwy’r prosiect Cotton 2040 (2022).

Anne Uruska
Bu’n un o’r lliaws ieuenctid yn Aelwyd yr Urdd Caerdydd a elwodd o ymroddiad Gwilym Roberts a gwirfoddolwyr eraill dros y Gymraeg. Mae hi’n dal i weithio ym myd yr iaith, yn bennaf fel ymchwilydd a thiwtor dysgu Cymraeg.

Betsan Powys
Newyddiadurwr a fu’n gweithio gyda’r BBC a HTV, gan dreulio pum mlynedd fel Golygydd Radio Cymru. Er iddi adael y BBC yn 2018 mae’n bresenoldeb cyson ar raglenni radio a theledu a bu’n cyflwyno Pawb a’i Farn. Mae’n byw yng Nghaerdydd.

< Yn ôl

Wylfa – croeso gofalus

Ymlaen >

Dilyn seren y dwyrain