Huw Griffiths
Bu’n athro ysgol uwchradd ac yn diwtor chweched dosbarth am dros ugain mlynedd cyn newid cyfeiriad. Ar ôl hynny ymunodd â’r Athrofa, sef Adran Addysg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae bellach yn uwch‑ddarlithydd yno, yn darlithio ar y cwrs MA ac yn ymchwilio i addysg a hanes Cymru.
Ifan G. Hughes
Athro yn Adran Ffiseg Prifysgol Durham sy’n arwain ym maes Cwantwm, Golau a Mater. Un o Ynys Hir yn wreiddiol a addysgwyd yn Ysgol y Bryn Cwmllynfell, Ysgol Gyfun Ystalyfera, Coleg Imperial Llundain a Phrifysgol Rhydychen.
David James
Cyn‑ddarlithydd yn Ysgol Fusnes Prifysgol Bangor a’r Coleg Normal. Mae ganddo brofiad helaeth o ddarlledu ym maes pêl‑droed ac mae’n aelod o Gyngor Cymdeithas Bêl‑droed Arfordir Gogledd Cymru. Pan oedd yn athro yn Ysgol Uwchradd Rhiwabon yn y 1970au bu’n dysgu hanes i Mark Hughes.
Bethan Kilfoil
Yn wreiddiol o Ddyffryn Ceiriog, hi oedd gohebydd Ewrop BBC Cymru cyn iddi symud i Iwerddon ugain mlynedd yn ôl. Yn briod a chanddi ddau o blant, y mae bellach yn olygydd prif raglen newyddion nosweithiol gwasanaeth teledu RTÉ. Ymgartrefodd yn Newbridge yn Swydd Kildare.
Russell Isaac
Brodor o Ferndale yn y Rhondda Fach. Gwnaeth ymchwil cymdeithasegol ym Mhatagonia. Bu’n newyddiadurwr teledu a radio gyda HTV a’r BBC ac ef yw rheolwr‑gyfarwyddwr Cwmni 10/SMS. Mae hefyd yn ymgynghorydd Hinsawdd a Chyfathrebu gyda’r Cenhedloedd Unedig a’r Asia Broadcast Union.
Rhiannon Marks
Brodor o Gil‑y‑cwm, Sir Gâr. Astudiodd yn Aberystwyth a Rhydychen, ac mae bellach wedi ymgartrefu yn Radur gyda’i theulu. Mae’n Uwch‑ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, ac yn ymddiddori mewn llenyddiaeth gyfoes, theori lenyddol ac astudiaethau rhywedd.
Owein Prendergast
Arweinydd y Cwrs Sylfaen mewn celf yng Ngholeg Menai, Bangor – cwrs dylanwadol y bu ei dad, yr arlunydd Peter Prendergast, yn allweddol yn ei ddatblygu. Cafodd ei waith ef ei hun ei arddangos yn Oriel Ffin‑y‑Parc yn 2023 a bu’n un o ddetholwyr Y Lle Celf yn yr Eisteddfod.
Meg Elis
Wedi gweithio fel cyfieithydd, mae’n canolbwyntio bellach ar ysgrifennu rhyddiaith. Mae’n awdur nofelau a storïau byrion, ac ymhlith ei chyfrolau mae I’r Gad, Cyn Daw’r Gaeaf, a enillodd iddi’r Fedal Ryddiaith yn 1985, a Dewch at eich Gilydd. Bydd yn adolygu’n gyson yn y wasg Gymraeg.
Mared Gwyn
Sylwebydd gwleidyddol sy’n arbenigo mewn materion Ewropeaidd. Mae hi’n gweithio ym myd cysylltiadau cyhoeddus ym Mrwsel ac wedi treulio cyfnodau yn gweithio ym Madrid a Lwcsembwrg. Daw’n wreiddiol o Lŷn ac mae ganddi radd mewn ieithoedd modern o Brifysgol Caergrawnt.