Thema dywyll Thema golau

Rheol Gymraeg yr Eisteddfod

Llun Llwyfan y Maes, Eisteddfod 2022 Llun Llwyfan y Maes, Eisteddfod 2022
Er fy mod yn llwyr gefnogi hawl artistiaid i’w mynegi eu hunain drwy ba bynnag gyfrwng sydd orau ganddynt, mae’r drafodaeth ynglŷn â rheol iaith yr Eisteddfod wedi mynd yn ddiangen o hyll. Holl bwynt yr Eisteddfod ydi dathlu’r Gymraeg a’i diwylliant. Does dim dwywaith nad oes gan yr artistiaid sydd dan sylw a’u celfyddyd le pwysig o fewn y diwylliant hwnnw. Mae eu hangen nhw, ac mae eu mynegiant artistig organig a gonest yn gwneud y celfyddydau Cymraeg yn hygyrch i gynulleidfaoedd na fyddai darpariaeth arferol yr Eisteddfod, efallai, yn taro tant â nhw. Mae gan artistiaid hawl i wrthod cyfaddawdu ar eu hegwyddorion, ond nid gwneud i’r Eisteddfod gyfaddawdu ar fater ei hunaniaeth yw’r ateb. Mae’r awgrym y dylid cael gwared â’r rheol iaith, neu ei haddasu i fodloni artistiaid sy’n penderfynu peidio â pherfformio’n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg, yn ateb gorsyml a diffygiol i broblem gymhleth.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
Cefndir cyffredinol Barn

Chwilio am aelodau i grŵp ffocws

Ymlaen >
Dinas Istanbwl

Erdogan yn ôl eto yn ei balas