Thema dywyll Thema golau

Rheoli ail dai – gobaith am fesurau radical

erthygl-rhagfyr-2021-i-ionawr-2022-2293-1189 erthygl-rhagfyr-2021-i-ionawr-2022-2293-1189
Fel rhan o’u Cytundeb Cydweithio mae Plaid Cymru a Llafur wedi ymrwymo i ddelio ag un mater sy’n agos iawn at fy nghalon – ail dai. Roeddwn i hefyd yn falch o ddeall y bydd cynllun peilot i fynd i’r afael â’r argyfwng yn rhan o hyn. Ffrwyth argymhelliad adroddiad Dr Simon Brooks, Ail gartrefi: Datblygu polisïau newydd yng Nghymru, yw’r peilot. Ym mis Tachwedd y llynedd pleidleisiodd Cyngor Tref Nefyn yn unfrydol o blaid un o’i argymhellion, sef cyflwyno cynnig yn galw ar y Llywodraeth i beilota gosod trothwyon ‘cap’ ar niferoedd ail dai yn ardal Nefyn. I gefnogwyr Hawl i Fyw Adra bu’n flwyddyn hir a phoenus o ymgyrchu a disgwyl, llythyru a gwrando ar ddadleuon gan grwpiau ymgyrchu dros yr angen i beilota. Barn rhai oedd y dylid ymwrthod â pheilota a chyflwyno deddfwriaeth yn genedlaethol. Barn grŵp ymgyrchu Hawl i Fyw Adra oedd mai’r unig ffordd o gael newid gwirioneddol radical yn genedlaethol oedd trwy dreialu mesurau radical mewn peilot yn gyntaf.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-rhagfyr-2021-i-ionawr-2022-2292-1188

Plaid Cymru wedi’r cytundeb

Ymlaen >

Syllu yn y drych gwleidyddol – cyngor i’r pleidiau