Thema dywyll Thema golau

Rhestrau aros a diffyg gwelyau

erthygl-mawrth-2022-2318-1211 erthygl-mawrth-2022-2318-1211
Daeth ystadegau difrifol pellach am gyflwr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru i’n sylw yn ddiweddar, rhai sy’n dangos bod rhestrau aros am driniaeth ddi-frys wedi cynyddu’n fisol ers Mawrth 2020. Mae Covid yn amlwg wedi cael effaith andwyol, ond roedd y sefyllfa’n un argyfyngus hyd yn oed cyn i’r aflwydd hwnnw daro. Cyhoeddwyd ‘Cynllun y Gwasanaethau Iechyd a Gofal i Adfer ar ôl y pandemig’ gan Lywodraeth Cymru yn ôl ym Mawrth 2021, ond gwyddom erbyn hyn mai dirywiad pellach yn hytrach nag adferiad fu’r hanes. Buddsoddwyd £100 miliwn ar y pryd gan Lywodraeth Cymru i ddelio â rhestrau aros a chael y gwasanaeth iechyd yn ôl ar ei draed. Cyhoeddwyd adroddiad gan Goleg Brenhinol Llawfeddygon Lloegr yng Nghymru (dryslyd, onid e?) yn gynnar yn 2021, oedd yn argymell sawl cam ar gyfer lleihau amseroedd aros. Mae’n amlwg i’r argymellion, yn debyg i rai hadau yn Nameg yr Heuwr, syrthio ar dir creigiog neu ymhlith y drain.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-mawrth-2022-2317-1210

Ydi Brexit yn Cymreigio’r Cymry?

Ymlaen >
erthygl-mawrth-2022-2319-1212

Hanes angenrheidiol, bratiaith ddiangen