1. Cael gwared â’r rhaniadau I’m tyb i, un o broblemau canolog y Blaid mewn blynyddoedd diweddar fu’r diffyg cydlynu ac yn wir y diffyg ymddiriedaeth rhwng yr arweinyddiaeth (yn achos y ddau arweinydd diwethaf gwelwyd clique cymharol fach ond dylanwadol yn ffurfio o amgylch yr arweinydd), y grŵp o aelodau etholedig a’u staff yn y Senedd, a’r swyddfa ganolog yn Nhŷ Gwynfor. Ar y pwynt yma, nid oes diben trafod pam neu bwyntio bys at hwn a’r llall am greu sefyllfa o’r fath. Digon yw dweud na fydd rhagolygon y Blaid fyth yn newid oni bai fod cydweithrediad ac ymddiriedaeth yn cael eu sefydlu ac mai cyfrifoldeb yr arweinydd, yn y pen draw, ydi sicrhau bod hynny’n digwydd. Mae’n gyfle yn awr, felly, i Adam Price ddangos ei ruddin. Rwy’n tybio mai dyma’r grŵp cryfaf o aelodau etholedig a gafodd Plaid Cymru erioed yng Nghaerdydd a bydd Prif Weithredwr parhaol yn cael ei benodi yn y man hefyd. Mae’r deunydd crai un ai yn ei le neu ar fin cyrraedd; y cwestiwn sy’n aros i’w ateb yw a oes pensaer a chanddo ddigon o weledigaeth, amynedd a – noder – gwyleidd-dra i’w ddwyn ynghyd yn llwyddiannus? 2. Diwygio’r peiriant ymgyrchu Afraid dweud bod gwleidyddiaeth wedi bod yn newid yn eithriadol o gyflym dros y blynyddoedd diwethaf. Bu graddfa’r newid yn ddigon i roi pendro i bob un ohonom. Mae’r un peth hefyd yn wir am ymgyrchu gwleidyddol. Mae gan y pleidiau mawrion ffyrdd newydd o adnabod darpar bleidleiswyr sy’n adlewyrchu nid yn unig newidiadau yn y ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael amdanynt ond yn ogystal newidiadau yn yr hyn sy’n cyflyru etholwyr. Mae yna hefyd ffyrdd newydd o gysylltu â darpar bleidleiswyr heb sôn am aelodau a chefnogwyr. Yn eironig ddigon, yn ystod ei ymgyrch lwyddiannus i ddyfod yn arweinydd Plaid Cymru fe nododd Adam Price yr angen i ddiweddaru peirianwaith ymgyrchu’r blaid gan gynnig nifer o syniadau ynglŷn â sut i wneud hynny. Hyd y gwelaf, nid oes dim wedi dod ohonynt nac yn wir o’r felin drafod sydd wedi ei lansio ganddo sawl gwaith dros y blynyddoedd. Unwaith eto, nid mater o bwyntio bys ydi hyn (ac wrth reswm bu cyflawni unrhyw beth dros y flwyddyn a mwy diwethaf yn anodd, anodd). Ond wedi etholiad arall siomedig, mae’n hwyr glas fod peiriant ymgyrchu’r blaid yn cael ei ddiwygio a’i ddiweddaru. 3. Gonestrwydd mewnol Mewn gwleidyddiaeth fel mewn bywyd yn gyffredinol, mae tuedd naturiol i ymateb i siom trwy fod yn amddiffynnol. Chawsom ni ddim chwarae teg; roedd y reffarî’n unllygeidiog; buom yn eithriadol o anlwcus; ar ddiwrnod neu mewn mis neu flwyddyn arall byddai pethau wedi bod yn wahanol ond y tro hwn doedd y gwynt ddim o’n plaid: bydd pob un wan jac ohonom wedi ceisio egluro cael ein siomi mewn termau o’r fath. A wyddoch chi beth, nid hel esgusodion yn unig mo hyn chwaith! Yn aml mae dogn helaeth o wirionedd yn y peth. Mae cymaint sydd y tu hwnt i’n rheolaeth neu sy’n anrhagweladwy. Ond mewn gwleidyddiaeth fel mewn bywyd yn gyffredinol, mae hefyd yn bwysig ein bod yn fodlon gofyn cwestiynau caled ynglŷn â’r modd y buom yn delio â’r pethau hynny sydd o fewn ein rheolaeth ac y gellid neu y dylid bod wedi eu rhag-weld. Mae profiad y degawd diwethaf yn awgrymu bod Plaid Cymru’n cael hynny’n anodd. Felly’r cam cyntaf un o ran adfer trefniadaeth Plaid Cymru – y cam pwysicaf i gyd o bosib – yw cynnal adolygiad mewnol gonest o’r hyn a ddigwyddodd yn etholiad mis Mai: adolygiad sy’n annibynnol ac yn awdurdodol; sy’n eofn ond yn osgoi carfanu; sy’n finiog ond yn adeiladol. Waeth inni heb a bod yn naïf: byddai’n haws gan lawer oddi mewn i’r blaid osgoi proses o’r fath gan y gallai’r canlyniadau fod yn bur anghysurus. Eto i gyd, os nad ydyw’n fodlon rhoi trefn ar ei threfniadaeth fewnol ei hun, yna fydd dim modd osgoi etholiadau eraill a fydd yn cael eu dilyn gan lu o erthyglau’n trafod llwyddiant Llafur a siomedigaeth Plaid Cymru. Wrth reswm, bydd Llafurwyr yn croesawu hynny, ond siawns nad yw aelodau a chefnogwyr Plaid Cymru bellach wedi cael llond bol?
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
