Thema dywyll Thema golau

Rhwng Cwsg ac effro

Dyna’r math o sefyllfa sy’n cael ei phortreadu yn nofel newydd Meg Wolitzer, The Ten Year Nap, lle mae Amy, Jill, Roberta a Karen yn ymlafnio efo’u ‘rhyddid’ newydd ar ôl deng mlynedd o fagu plant. Mae’r pedair wedi rhoi’r gorau i yrfaoedd llewyrchus mewn amrywiol feysydd er mwyn codi tyrau blocs a pheintio efo tatws, a bellach maen nhw’n pendroni dros yr hyn maen nhw isho allan o fywyd, a sut i dreulio gweddill eu dyddiau.

Rwan, mae unrhyw un sydd wedi bod yng nghwmni plentyn bach am fwy na phum munud yn gwybod nad ydi deng mlynedd o fagu yn fawr o ‘nap’, ond pwynt Wolitzer yw mai dyma agwedd nifer fawr o ddarpar-gyflogwyr; sef bod merch sydd wedi bod allan o’i diwydiant am gyfnod mor hir wedi colli mwy o sgiliau nag y mae hi wedi eu hennill. O ganlyniad i hyn mae hi’n medru bod yn anodd iawn i famau sydd am ddychwelyd i weithio i gael gafael mewn swydd sydd yn eu diddori ac yn eu hymestyn yn ymenyddol.

Ychydig sydd yn cael ei drafod ar famau yn dychwelyd i weithio, yn rhannol oherwydd bod llawer iawn o famau erbyn hyn yn dewis byw y bywyd rhwng-dwy-stôl hwnnw a elwir yn weithio rhan amser, lle mae rhywun yn ymladd yn erbyn y lli wrth drio bod yn bopeth i bawb gan deimlo, wrth gau’r llenni, bod y cyfan yn gompromeis anghysurus. Ond i’r rhai sydd yn aros adra yn llawn amser i fagu, y dybiaeth ydi y byddan nhw, ryw dro, yn ffendio rhyw fath o waith oriau hyblyg, tâl isel, a fydd yn eu galluogi nhw i fod wrth giât yr ysgol erbyn 3 o’r gloch.

Y dewis arall ydi ail-hyfforddi er mwyn dal i fyny gyda’r newidiadau sydd wedi digwydd yn eich maes dewisol ers i chi gychwyn ar eich ‘nap’, ac wedyn cystadlu yn erbyn ymgeiswyr ’fengach a rhatach am swydd lle y medrwch chi ddefnyddio’ch sgiliau o’r diwedd – a wedyn defnyddio’ch cyflog i dalu rhywun i nôl eich plant o’r ysgol. Cynllun digon rhesymol, os ydi’r hyder a’r penderfyniad ganddoch chi, ond peidiwch â disgwyl cael camu mewn i swydd o sylwedd yn syth – mae’n debyg bod rhaid disgwyl blwyddyn i gael job am bob blwyddyn y buoch chi adra, felly os oeddach chi ar ‘nap’ am ddeng mlynedd, mae angen magu ’mynadd.

Mae ‘ail-lawnsio’ merched yn destun siarad mawr yn America erbyn hyn, yn rhannol oherwydd bod gofal plant yn brinnach a drytach, a thâl mamolaeth yn is yn fan’no nag ydi o fan hyn, felly cymryd cyfnod allan o’r gweithle mae nifer fawr o famau America. I famau dosbarth canol, mae trio dychwelyd i’r gweithle yn brofiad rhwystredig, gan mai’r agwedd gyffredin yw nad oes angen iddyn nhw weithio o gwbwl, gan fod eu gwyr yn ennill cyflog da, felly nid oes angen poeni am roi cymorth iddyn nhw gael swydd. Ond, mae cwmnïau ail-lawnsio yn dechrau codi’u pennau yno, a mater o amser ydi hi nes y bydd yr un peth yn digwydd yma. Mae cwmni recriwtio Women Like Us eisoes wedi dechrau arni yng ngogledd Llundain, ac nid y nhw fydd yr ola’, dwi’n siwr.

Un o’r gweithwyr rhwng-dwy-stôl ydw i, ac yn mwynhau peth o’r rhyddid di-lego ar y dyddiau pan nad ydw i’n gweithio, gan wybod mai cynyddu fy oriau gwaith fydd y cam nesaf, a phendroni beth i’w wneud am fater bach y Dedlein Tri O’r Gloch, a mater mawr yr Unarddeg Wythnos O Wyliau Ysgol A Finna Bellach Yn Ddi-Feithrinfa!

Diolch byth am yr holl sgiliau rheoli amser a jyglo cant o bethau a ddysgais i yn ystod fy chwe mlynedd o fod adra dipyn go lew efo dau o blant bach prysur, heb sôn am yr amynedd Jôb, rheolaeth tîm, rheolaeth tempar, a thactegau ymresymu a ddylai agor drysau imi yn y Cenhedloedd Unedig o leia’.

Mae’r dyfodol yn ddisglair, ac mae hi’n amser deffro. Ar ôl imi nôl y plant o’r ysgol, wrth gwrs.

 


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Saunders, Gwynfor a Gadaffi

Ymlaen >

Americanwr oddi cartref