Er i rai agweddau cyffredinol ar yr arddangosfa ei siomi, cafodd CERIDWEN LLOYD-MORGAN ddigon i gnoi cil arno yn y Lle Celf wrth astudio’r darnau unigol.
Da medru dweud bod gwell trefn ar y ffordd y gosodwyd y gwaith eleni, o’i chymharu â’r llynedd, ac i griw proffesiynol Tŷ Pawb mae’r diolch am hynny. Ond cefais sawl siom yn deillio o ddiffyg buddsoddiad yr Eisteddfod yn y Lle Celf. Bellach ni chawn arddangosfa yn gysylltiedig â bro’r Eisteddfod, na cherddi i gyd-fynd â’r gweithiau, a dim seddi o gwbl ar wahân i fainc fach mewn tri bwth fideo. Er mwyn astudio gweithiau’n fanwl, fel sydd ei wir angen, bu rhaid imi dreulio llawer o’m hamser yn eistedd ar lawr: diolch byth am Eisteddfod heb fwd. Yn ddigidol yn unig y cyhoeddwyd y catalog, a oedd felly yn anhygyrch i’r sawl na fedrai ei lawrlwytho o gôd QR i ffôn clyfar neu nad oedd â golwg digon da i ddarllen y testun ar sgrîn mor fach. Pan lwyddais i ddadlwytho’r catalog i’m gliniadur yn ddiweddarach roedd y diffygion yn amlwg. Nid oedd dim gwybodaeth am yr artistiaid unigol, hyd yn oed y rhai a enillodd y prif wobrau – bu rhaid mynd i chwilio trwy’r datganiadau i’r wasg – ac mewn sawl achos cynrychiolwyd yr artist gan lun o waith nad oedd yn yr arddangosfa. Cysegrwyd 10 o 37 tudalen y catalog i’r enillwyr ym maes pensaernïaeth – ond heb enwi’r penseiri! Adeiladau Fictoraidd oedd man cychwyn y ddau brosiect arobryn hyn. Addaswyd hen eglwys y Santes Fair ym Mangor yn gartref deniadol i gwmni theatr Frân Wen, tra ychwanegwyd caffi newydd, adeilad siâp ŵy môr, i Blas Glyn-y-Weddw, a hwnnw’n syfrdanol o wahanol i’r tŷ gwreiddiol o ran siâp, lliw a defnyddiau.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
-

Tanysgrifiad – Digidol yn Unig
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at fersiynau llawn yr erthyglau ar ein gwefan, a rhifynnau blaenorol yn eu ffurf ddigidol. Byddwch yn gallu darllen popeth sydd ar ein gwefan tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£35.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
-

Tanysgrifiad – Print a Digidol
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at holl gynnwys gwefan BARN. Byddwch hefyd yn derbyn rhifyn newydd drwy’r post yn fisol tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£50.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
Mewngofnodi
Cofrestru
