Thema dywyll Thema golau

Rhwng hiraeth a gobaith – holi Tecwyn Ifan

erthygl-hydref-2021-2274-1173 erthygl-hydref-2021-2274-1173
Deil y llais yn llawn tynerwch a thaerineb ac o wrando ar eiriau’r caneuon mae yna hiraeth calonogol i’w glywed. Braenarir y cyfan â’r themâu tragwyddol o obaith a dyfalbarhad i gyflawni’r nod o sicrhau rhyddid cenedlaethol, heddwch a dyfodol y blaned, oll wedi’u plethu’n un. Mae Tecwyn Ifan wedi rhyddhau ei gasgliad cyntaf o ganeuon mewn deng mlynedd o dan y teitl Sbaenaidd, Santa Roja (Sain). Daw’r albwm allan ar drothwy’r hyn sy’n cael ei alw yn Ddiwrnod Waldo bellach, sef 30 Medi. A phriodol hynny, gan fod cysgod Waldo’n drwm dros y casgliad, fel niwlen y Preselau yn y fro lle bu’r canwr yn byw cyhyd. Beth, tybed, yw apêl y bardd at y canwr, apêl sydd wedi gadael ei hôl ar ei ganeuon ers rhyddhau Goleuni yn yr Hwyr yn 1979? ‘Mae’n anodd dweud beth sydd yn denu,’ meddai. ‘Galla i ddim dweud fy mod wedi’i adnabod e fel person. Ma’ fe’n rhoi hwb i edrych yn obeithiol a chadarnhaol ar bob dim hyd yn oed ar yr awr dduaf. Ma’ fe’n ysbrydoliaeth.’

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-hydref-2021-2273-1172

Gamblo ag iechyd Awstralia

Ymlaen >
erthygl-hydref-2021-2275-1174

Mamau ‘anfamol’ – drama newydd Rhiannon Boyle