Thema dywyll Thema golau

Rhyddid mewn cyfyngder

erthygl-mai-2020-2090-1005 erthygl-mai-2020-2090-1005
Prin fod Iwan Bala, gyda’i hoffter o wneud lluniau a chartwnau gwleidyddol eu hergyd, yn artist y byddech yn ei gysylltu â blodau. Ond maent yn amlwg iawn, yn llachar o liwgar, yn ei waith diweddaraf. Mae’r llun a welir ar y dudalen hon yn un o gyfres o luniau ar thema wanwynol y mae wedi’u peintio yn ystod yr wythnosau diwethaf. Gwnaeth hynny yn ystafell fwyta cartref ei gymar, Karin, ym mhentref Kirtlington yn Swydd Rhydychen, wrth i’r cyfyngiadau ar deithio ei rwystro rhag mynd, yn ôl ei arfer, i’w stiwdio yng Nghaerdydd. ‘Dwi’n sylwi ar ddyfodiad y gwanwyn yn arbennig eleni, yn fan hyn. Mae’r tŷ ar y Green, ac mae yna flodau o flaen ffenestri’r tai, a choed yn blaguro ym mhob man. Mae natur yn wahanol i’r hyn ydi o yng Nghymru – yn fwy trefnus a dof rywsut.’ Eto, mae rhywbeth yn ddiamheuol Gymreig yn y mynyddoedd sydd yng nghefndir sawl un o’r lluniau.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-mai-2020-2089-1004

Llundain lonydd… i raddau

Ymlaen >
erthygl-mai-2020-2091-1006

T. Wilson Evans – y nofelydd coll