Thema dywyll Thema golau

Rhyddid y wasg yn Awstralia

Polb gyda baneri Polb gyda baneri
Pan ddaeth heddlu ffederal Awstralia i stafell newyddion yr ABC yn Sydney i chwilio drwy ddogfennau ac e-byst rhai o’r newyddiadurwyr, roedd fy nghyd-weithwyr ar y ddesg dramor yn gwylio’r cyfan yn fyw ar sianel newyddion y gorfforaeth ar y rhes o sgriniau teledu uwchben. ‘Ro’n ni i gyd yn chwerthin am y peth ddoe a ’neud jôcs,’ meddai Jonathan wrtha i pan es i mewn am fy shifft arferol y bore wedyn. ‘Roedd yr hen hiwmor du Aussie yn ein cadw ni i fynd. Dim ond bore ’ma y trawodd e fi pa mor ddifrifol yw’r sefyllfa.’ Prin fod cyfryngau amrywiol Awstralia yn cytuno ar unrhyw beth, ond pan ddaeth heddlu’r AFP i gynnal cyrch ar ystafell newyddion fwyaf y darlledwr cenedlaethol, yn sydyn roedd pob cyhoeddwr mawr a phob darlledwr yn gweld y bygythiad. ‘War on Truth’ oedd pennawd y Daily Telegraph. ‘Risk of “criminalising” media’ meddai’r Australian. ‘Be concerned, state power is looking at you’ meddai’r Sydney Morning Herald.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
Mapiau gyda baneri

'Yr Undeb Werthfawr hon'

Ymlaen >
Pont Lanwrst

Tro o amgylch Nant Conwy