Thema dywyll Thema golau

Rhyfel sy’n dal i frifo

erthygl-mai-2022-2341-1237 erthygl-mai-2022-2341-1237
Tasglu’n hwylio o borthladd Portsmouth yn sbloets o faneri Jac yr Undeb i gyfeiliant dolefus ‘We Are Sailing’ Rod Stewart. Pennawd y Sun, ‘GOTCHA’, pan suddwyd y General Belgrano a 368 o Archentwyr ar ei bwrdd. ‘Rejoice! Rejoice!’ fuddugoliaethus Margaret Thatcher pan adfeddiannodd lluoedd Prydain ynysoedd De Georgia. A Simon Weston. Simon Weston y llanc 21 oed o bentref Nelson ac aelod o’r Gwarchodlu Cymreig, y llosgwyd 46 y cant o’i gorff yn sgil yr ymosodiad ar long y Sir Galahad. Dyna rai o’r delweddau sy’n aros yn fy meddwl i o’r rhyfel byr a ymladdwyd rhwng 2 Ebrill a 14 Mehefin 1982. Ac mae’n rhaid ei fod wedi gadael argraff arnaf oherwydd bu’r gwrthgyferbyniad rhwng y rhethreg a’r ddefodaeth gyhoeddus a thorfol pan anfonir milwyr i ryfel ac effeithiau dynol ac unigol hynny’n hwyr neu’n hwyrach yn destun chwilfrydedd ac ymchwil imi. Hynny yw, sut y mae’r rhai a’i profodd yn ogystal â beirdd, nofelwyr, dramodwyr, arlunwyr, cerddorion a gwneuthurwyr ffilmiau wedi cyfleu’r profiad o ryfel, boed hynny ar y Somme neu yn Fiet-nam neu’r Falklands/Malvinas.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-mai-2022-2340-1236

Creadigaethau cynnar hanesydd celf

Ymlaen >
erthygl-2342-1238

Twtio’n teimladau go iawn