Thema dywyll Thema golau

Robin Evans 1954‑2026

Robin Evans

Darlledwr a chynhyrchydd teledu a fu’n un o gonglfeini darlledu Cymraeg yng nghyfnod S4C, canwr gyda Mynediad am Ddim, a chyfaill triw i lawer.

Er iddo gynhyrchu llu o gyfresi poblogaidd ar gyfer S4C am bedwar degawd, go brin y byddai neb y tu hwnt i’w gydweithwyr a’i ffrindiau wedi clywed am Robin pe na bai yn un o’r criw o stiwdants a ddaeth ynghyd i ffurfio Mynediad am Ddim yn 1974 gan ddiddanu cynulleidfaoedd am hanner canrif. A hyd yn oed o fewn y grŵp, ei gyfaill mawr Emyr Wyn oedd yn hawlio’r sylw er mai llais melodaidd Robin sydd amlycaf ar lawer o ganeuon cofiadwy Mynediad. Doedd Robin ddim yn un i dynnu sylw ato fo’i hun. Roedd ganddo ddigon o hunanhyder, ond y gwaith, y rhaglen oedd yn cyfri. Yn ôl y sôn, pan fyddai Mynediad am Ddim yn llogi bws mini i fynd i gyngerdd neu ar daith yn y blynyddoedd cynnar, Robin fyddai’n gyrru yn amlach na pheidio – o’i wirfodd. Er mwyn cyrraedd adref yn ddiogel, fo oedd y dewis amlwg wrth gwrs. Un fel’na oedd o.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Rowland Wynne 1941‑2026

Ymlaen >

111 Ffaith Ffantastig