Thema dywyll Thema golau

S4C – ‘Calon Cenedl’

Yn sgil y dadlau a’r dadansoddi, cafwyd cyfle i feddwl o’r newydd hefyd ynglyn â swyddogaeth a nod S4C. Bu nifer o raglenni’r Nadolig a’r Calan yn fodd i grisialu rhai o’r pynciau llosg. Unwaith eto eleni mae defnydd y Saesneg ar raglenni Cymraeg wedi arwain at sylwadau pigog. Roedd undonedd gweledol, hyd affwysol a chyflwyno prennaidd Nadolig Bryn Terfel yn wendidau llawer gwaeth yn y rhaglen na’r caneuon Saesneg a gafwyd. Ond wrth i enghreifftiau tebyg o berfformiadau a sgyrsiau yn yr iaith fain bentyrru – ar Only Men Aloud, Shân Cothi a Cyngerdd Mawr Talent Cymru – roeddwn wedi syrffedu ar yr holl Saesneg ymhell cyn i Rhydian fy ngwahodd i ‘kiss my ass’! Mae lle i bryderu am gymhellion golygyddol y sawl fu’n comisiynu’r rhaglenni hyn. Fel rhan o ddrama neu raglen ffeithiol mae modd cyfiawnhau cynnwys defnydd synhwyrol a phwrpasol o’r Saesneg. Ond mae cyfieithu rhai caneuon Saesneg ond nid eraill yn ddisynnwyr – os yw Sophie Evans yn medru canu cyfieithiad o ‘Over the Rainbow’, pam na all pob artist ganu yn Gymraeg? Ac mae cynnwys sgyrsiau neu sgetsys Saesneg yn tanseilio holl bwrpas rhaglen Gymraeg.

Un peth yw ehangu apêl rhaglenni drwy farchnata’n ddwyieithog, ond peth arall yw newid natur y Sianel mewn ymdrech i ddenu cynulleidfa ddi-Gymraeg. Mae’r artistiaid a ymddangosodd ar y sgrin dros yr wyl i ‘ddathlu’ y gydnabyddiaeth sydd iddynt yn Lloegr yn sicr yn dalentog ac fe ddylai fod lle i bob math o adloniant ar S4C. Ond roedd clywed Alex Jones yn ategu barn Simon Cowell a’i fath bod llwyddiant yr artistiaid hyn yn ‘profi’ fod gan Gymru dalent yn destun pryder. Gallwn benderfynu drosom ni’n hunain pwy sy’n haeddu ein sylw a’n clod. Nid yw gwahodd artistiaid sioeau fel yr X Factor i berfformio ar raglenni S4C yn broblem, ond mae newid natur ieithyddol rhaglenni fel rhan o strategaeth neu weledigaeth ehangach yn gosod cynsail peryglus.

Daeth yn amlwg yn nhrafodaeth y misoedd diwethaf fod gwylwyr yn gytûn bod angen i S4C barhau i gynhyrchu cyfresi drama o’r safon uchaf. Mae hyn yn arbennig o bwysig o gofio am y diffyg dramâu Cymreig ar unrhyw sianel arall. Mae Alys, cyfres newydd awdures Con Passionate, Siwan Jones, yn waith pwysig a gwreiddiol. Dyma ddrama Gymraeg o’r diwedd sy’n mynd i’r afael â dosbarth a chymdeithas, gan gymryd golwg Ddickensaidd yn null y ddrama deledu Americanaidd arobryn The Wire (mae’r defnydd o linellau o ddeialog ar ddechrau bob pennod yn adlais clir o’r ddrama honno) ar broblemau cymdeithasol cyfoes, pwysau economaidd a’r amwysedd moesol a ddaw yn eu sgil. Mae’r ddeialog gynnil, fachog, y plot gafaelgar, a’r cyfarwyddo crefftus, dychmygus yn sicrhau nad oes ymdeimlad o sebon ar ei chyfyl. Mae’n gynhyrchiad cyfoes o’r ansawdd uchaf – roedd yr olygfa agoriadol wych o’r garej yn dwyn ffilmiau David Lynch i’r meddwl. Er bod Alys yn fwy realaidd na Con Passionate, ceir yn y gyfres yma eto gyffyrddiadau symbolaidd da. Mae cymeriad y cyn-weinidog llengar a’r alcoholig William er enghraifft (perfformiad athrylithgar arall gan un o’n hactorion mwyaf, Wil Thomas) yn awgrymu argyfwng ein seice cenedlaethol wrth gynrychioli tranc ein traddodiadau diwylliannol. Ceir hefyd elfennau swreal a grotesg yng nghymeriad Rabelaisaidd Ron y Maer (Ifan Huw Dafydd).

Alys a Daniel yng nghyfres newydd Siwan Jones.

Ofnais mai astudiaeth arall o briodas anhapus dosbarth canol/argyfwng dyn canol oed fyddai hon ac mae ’na berygl ar brydiau bod Alys yn ormod o ‘tart with a heart’, yn gymeriad dosbarth gweithiol hoffus sy’n fodd i ddatgelu rhagrith ac anfoesoldeb y dosbarth canol heb fod yn gymeriad crwn credadwy ynddi ei hun. Ond diolch i gynildeb perfformiadau Sara Gregory, Shelley Rees a Wil Thomas, natur amlhaenog y naratif a rhythm sionc y golygfeydd, mae Alys yn llwyddo i osgoi ystrydeb o ran thema a chyflwyniad gan gynnig golwg ffres ac awgrymog ar strwythurau cymdeithasol ein hoes. Mae hon yn sicr yn gyfres fydd yn tyfu’n un o glasuron y sgrin fach.

Y gyfres newydd arall a gafodd ei hyrwyddo’n helaethoedd Iolo ac Indiaid America. Mae Iolo Williams yn gyflwynydd naturiol ac mae’n ddewis delfrydol ar gyfer ymateb i amgylchfyd trawiadol a bywyd gwyllt eiconig tiriogaethau cenhedloedd brodorol America. Wrth gyfleu cyffro’r campau traddodiadol ac edmygedd o wybodaeth a doniau’r helwyr a’r amaethwyr, mae’n benigamp, a phe byddai’r gyfres wedi cwmpasu hynny’n unig byddai hon wedi bod yn gyfres ddi-fai. Mae’r gwaith camera yn odidog, gydag eiliadau o deledu pur – fel pan fo Iolo yn gwylio’r rasys cyfnewid ceffylau neu’n dod wyneb yn wyneb gyda rattler. Ond roedd penderfynu gofyn i Iolo archwilio hanes ac iaith y cenhedloedd brodorol heb gymorth arbenigwr, boed fel ymgynghorydd neu gydgyflwynydd, yn gam gwag – yn creu darlun arwynebol ac ar brydiau’n arwain at driniaeth nawddoglyd o’r testun. Collwyd cyfle i dynnu sylw at berthynas ryfeddol cenhadwyr Cymraeg gyda chenedl y Cherokee er enghraifft, er bod Dr Jerry Hunter o Brifysgol Bangor yn arbenigwr ar eu hymdrechion i atal Llywodraeth America rhag dwyn tir a dileu hunaniaeth ac iaith y genedl honno. Er mor hudolus oedd clywed sain yr ieithoedd brodorol, roedd angen gosod profiadau Iolo yn y stafelloedd dosbarth mewn cyd-destun ystyrlon o ran gwybodaethfanylach ynglyn â sefyllfa’r ieithoedd hynny.

Y darnau mwyaf llwyddiannus o’r rhaglen 100 Lle oedd y rheini pan gafodd Aled Samuel gwmni’r hanesydd Dr John Davies i archwilio rhai o ryfeddodau ei lyfr hynod, Cymru: y 100 lle i’w gweld cyn marw. Er y gallwn wrando ar Aled Sam yn traethu am oriau ar unrhyw bwnc dan haul, roedd angen y cyfle i brofi gwybodaeth, ffraethineb a chymeriad unigryw John Bwlchllan er mwyn atal y teimlad fy mod yn ail-fyw y cyfresi lu y mae Aled Sam wedi eu cyflwyno’n ddiweddar. Yn yr un modd, personoliaeth a chysylltiad unigryw Dr Barry Morgan â thestun Ôl Traed Gerallt Gymro roddodd sbarc i’r rhaglen honno, ac roedd y gyfres annisgwyl o ddiddorol Straeon Tafarn yn llwyddo am ei bod yn cyfuno afiaith Dewi Pws gyda llu o gymeriadau lleol huawdl ac arbenigwyr gwybodus er mwyn adrodd rhai o straeon mwyaf lliwgar ond, yn aml, lleiaf adnabyddus ein hanes. Mewn cynhadledd ar gyfraniad y diweddar Hywel Teifi Edwards drwy gyfrwng y byd addysg a darlledu, a drefnwyd gan Academi Hywel Teifi Prifysgol Abertawe ganol Ionawr, dwedodd Euryn Ogwen Williams y gellid cyfri pob rhaglen yn y Gymraeg yn rhaglen addysgiadol. Wrth edrych at y dyfodol, dylid cofio mai cyfrwng prin yw S4C ar gyfer ‘adrodd ein stori’ – ac felly mae’n rhaid gwneud cyfiawnder â’r stori honno.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Obama ac Israel: Persbectif Pesimistaidd

Ymlaen >

Ta Ta Meic?