Thema dywyll Thema golau

Safwn gyda phobol Ciwba

Annwyl Olygyddion,

Mewn ymateb i erthygl Russell Isaac (‘Y Sigâr Sydd Ar Ddiffodd’ – Barn Mehefin), mae gwladwriaeth a gwerin Ciwba yn sicr angen ein dealltwriaeth a’n cefnogaeth heddiw yn fwy nag erioed.

Mae hanes Ynys Ciwba ers y chwyldro sosialaidd yn 1959 yn un o arwriaeth ac o argyfwng, yn mynnu’r hawl i fyw er gwaethaf holl ymdrechion dichellgar a threisgar yr Unol Daleithiau, ymdrechion sydd wedi dwysáu dan arlywyddiaeth asgell‑dde eithafol Donald Trump. I roi’r sefyllfa yn ei chyd‑destun, bwriad imperialwyr yr UD yw ehangu’r ‘Monroe Doctrine’ er mwyn cadw’r byd gorllewinol dan eu bawd ac er eu helw, pa mor anghyfiawn bynnag yw gwneud hynny. Mae Ynys Ciwba yn ddraenen yn eu hystlys.

Er gwaetha’r cyni a’r dioddefaint aruthrol yn sgil blocâd yr UD, mae gwladwriaeth Ciwba yn parhau i gynnal y gwerthoedd sylfaenol o gynnig addysg a gwasanaeth iechyd yn rhad ac am ddim i’w thrigolion, o’r crud i’r bedd. Dros nifer o ddegawdau mae Ciwba wedi anfon meddygon ac athrawon ledled y byd i gynorthwyo gwledydd eraill. Tra mae’r UD yn allforio taflegrau i ledu dinistr a marwolaeth, mae Ciwba yn allforio cymorth dyngarol sy’n cynnig gobaith.

Mae Ciwba, er gwaethaf pob anhawster, yn parhau i hybu datblygiadau arloesol ym meysydd amaeth ecolegol, fferylliaeth a’r amgylchedd, ac yn anelu at greu ynni cyfan gwbl adnewyddadwy erbyn 2050, gyda chymorth paneli solar o Tsieina.

Gallwn ni bobol Cymru, yn driw i’n traddodiadau radical, sefyll heddiw gyda phobol Ciwba, mewn cadernid ar adeg o argyfwng gwirioneddol, a bygythiad hyd yn oed i’w bodolaeth, a hynny drwy ymgyrchoedd megis Cymru‑Ciwba, y Cuba Solidarity Campaign a Cuba Vive. Venceramos!

Guto Davies,
Trehafod


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Y sioc o golli Starmer

Ymlaen >

Gwaharddiad cyfryngau cymdeithasol – y farn o Awstralia